Dweud eich dweud am wasanaethau Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 11/02/2025

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am yr hyn sy’n bwysig i drigolion a chymunedau’r sir.

Mae Arolwg Gwynedd ar agor am gyfnod o chwe wythnos, hyd nes 24 Mawrth 2025, ac yn gyfle i bobl leol ddweud eu dweud ar yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor – o drafnidiaeth, i dai, i gasgliadau gwastraff a mwy.

Mae’r holiadur ar gael ar-lein neu mae modd llenwi copi papur mewn lleoliadau ar draws y sir. 

Drwy gynnal yr ymarferiad hwn, bwriad Cyngor Gwynedd yw cael gwell dealltwriaeth am:

  • Yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd
  • Sut le ydi Gwynedd i fyw a phrofiad pobl o’r ardal leol
  • Sut mae trigolion yn teimlo am y Cyngor ac yn rhyngweithio â’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl Gwynedd – o bob oed a chefndir – i ddweud wrthym am eich ardal leol, sut yr ydych yn teimlo am fyw yno a’ch profiad o ddefnyddio gwasanaethau Cyngor Gwynedd.

“Mae gwaith y Cyngor yn rhan mawr o fywydau cymaint ohonom, er enghraifft ein hysgolion, gwasanaethau gofal a chyflwr ein ffyrdd a phalmentydd. Felly rydw i’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn gan ein bod eisiau clywed barn cymaint o bobl ag sy’n bosib.

“Bydd eich sylwadau yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio, ble mae lle i wella a’n helpu i lunio gwasanaethau’r dyfodol. Mae’r arolwg yn hawdd a chyflym – bydd ond yn cymryd ychydig funudau i’w lenwi.”

I gymryd rhan yn yr arolwg:

  • Gellir ei gwblhau ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/ArolwgGwynedd
  • Mae copïau papur ar gael yn y dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau) ac ym mhob llyfrgell yn y sir.
  • Bydd swyddogion y Cyngor yn cynnal sesiynau galw-heibio ble bydd modd llenwi’r holiadur yn y fan a’r lle, cadwch lygaid am fanylion ar gyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
  • I ofyn am gopi papur drwy’r post, cysylltwch â 01286 679266 neu 01286 679233.

Bydd yr arolwg ar agor rhwng 10 Chwefror a 24 Mawrth, 2025.

Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru sydd wedi datblygu’r arolwg cenedlaethol hwn.