Dwy o Wynedd yn cyrraedd y llwyfan cenedlaethol
Dyddiad: 18/02/2025
Mae dwy fyfyrwraig o Wynedd wedi llwyddo i ennill eu lle ar Raglen Llysgennad Ifanc Gwobrau Dug Caeredin (Duke of Edinburgh Award neu DofE) Cymru 2024-26, ble byddant yn siarad ar ran pobl ifanc eraill o bob rhan o Gymru, yn rhannu eu profiadau DofE ac yn helpu i lywio’r elusen i’r dyfodol.
Mae Nanw, 16 oed o Morfa Nefyn a Shannon, 16 oed o Nefyn yn ddwy o 14 sydd wedi eu dewis o ar draws Cymru i fod yn rhan o’r rhaglen ac mae’r ddwy yn gweithio tuag at gyrraedd lefel Aur y gwobrau cenedlaethol.
Dechreuodd Nanw ei siwrnai DofE pan oedd ym Mlwyddyn 9 yn Ysgol Botwnnog, ar ôl iddi cael cyflwyniad gan Andrew Owen, gweithiwr ieuenctid gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd. Penderfynodd Shannon gymryd rhan yn y rhaglen DofE er mwyn cryfhau ei chais ar gyfer y brifysgol.
Ers bod ar y rhaglen, mae’r ddwy wedi cwblhau lefelau Efydd ac Arian, ac wedi arwain a threfnu llu o weithgareddau, gan gynnwys:
- Aelodau o “Llais Ni”, sef fforwm Gwasanaeth Ieuenctid, a chyflwyno ar ran y fforwm i Gyngor Ieuenctid Caerdydd yn Senedd Cymru.
- Trefnu Gŵyl Llesiant – mynychodd mwy na 800 o bobl ifanc eraill yr ŵyl a gynhaliwyd ar-lein yn ystod y cyfnod clo yn 2020. Enillodd yr ŵyl wobr Gwaith Ieuenctid.
- Rhan o’r tîm o bobl ifanc a drefnodd gig ieuenctid er mwyn codi arian at elusen Sands, lle bu i Shannon dorri ei gwallt yn fyr hefyd i godi arian.
- Codi arian i’r ymgyrch ym mhentref Edern i brynu de-fib i’r gymuned drwy greu a gwerthu gemwaith a threfnu digwyddiadau lleol.
- Datblygu sgiliau mynydda, gweithgareddau awyr agored a gwneud hyfforddiant cymorth cyntaf.
Dywedodd Nanw: “Dwi’n mwynhau marchogaeth ac mae Adran Gorfforol y rhaglen DofE wedi fy helpu i herio fy hun ac i wella fy sgiliau.
“Rydw i wrth fy modd gydag anifeiliaid a dwi eisiau bod yn filfeddyg yn y dyfodol. Dwi hefyd yn angerddol dros addysg a diwylliant Cymru, dwi’n gobeithio gallu annog pobl ifanc eraill i elwa o gyfleoedd y rhaglen DofE.”
Ychwanegodd Shannon: “Trwy gwblhau y Gwobrau Efydd ac Arian, rydw i wedi gwella fy sgiliau cymdeithasol ac wedi magu hyder, yn enwedig trwy wirfoddoli a threfnu digwyddiadau.
“Fel Llysgennad Ieuenctid, dwi eisiau sicrhau bod DofE yn hygyrch ac yn hwyl i bawb, ac hefyd i ysbrydoli eraill i gymryd rhan yn y rhaglen a chreu atgofion oes. Dwi’n annog pobl ifanc fy ardal i gymryd mantais o’r cyfleoedd sy’n cael eu cynnig – dwi wedi cael gymaint allan o hyn.”
Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid ardal Dwyfor o Wasanaeth Ieuenctid Gwynedd sydd wedi bod yn gweithio gyda Shannon a Nanw ers 2019.
Dywedodd Andrew: “Llongyfarchiadau mawr i’r ddwy am eu gwaith caled i godi drwy lefelau Efydd, Arian ac Aur gwobrau DofE. Pob hwyl iddynt ar Raglen Llysgennad Ifanc a dymuniadau gorau wrth gynrychioli Gwynedd ar y llwyfan cenedlaethol, dwi’n falch iawn or ddwy.
“Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn cynnig pob math o gyfleon gwych i bobl ifanc y sir sy’n chwilio am brofiadau newydd a chyfeillgarwch. I ddysgu mwy am y gweithgareddau a’r cyfleon sydd ar gael yn eich ardal chi dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.”
Cysylltwch gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd:
E-bost: ieuenctid@gwynedd.llyw.cymru
Facebook: @IeuenctidGwyneddYouth
Instagram: @ieuenctidgwyneddyouth/