Taith i godi ymwybyddiaeth am gefnogaeth Niwroamrywiaeth yng Ngwynedd
Dyddiad: 11/02/2025
Mae gwasanaethau niwroamrywiaeth Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn mynd ar daith dros yr wythnosau nesaf i godi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth.
Bydd y digwyddiadau yma yn gyfle i rannu gwybodaeth a rhoi cyngor am y gwahanol wasanaethau sydd ar gael yma yng Ngwynedd i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n niwroamrywiol, neu sydd ar hyn o bryd yn disgwyl asesiad gyda'r tîm Niwroddatblygiadol (BIPBC).
Cynhelir y digwyddiadau ar ffurf ffair wybodaeth, a bydd llu o wasanaethau yn bresennol yn rhannu’r hyn maent yn gynnig gan gynnwys Awtistiaeth Gwynedd, Teuluoedd yn gyntaf Derwen, Tîm nyrsys ysgol arbenigol, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd, a’r Tîm niwroddatblygiadol.
Bydd cyfres o weithdai yn rhedeg yn ystod y dydd ar gyfer rhieni, gofalwyr, ymarferwyr proffesiynol neu unrhyw un sydd â diddordeb clywed am faterion sy'n ymwneud â niwroamrywiaeth (synhwyraidd a chysgu) ynghyd â chyflwyniadau gan y gymdeithas PDA a'r sefydliad ADHD.
Mae cyfle hefyd i fynychwyr gael profiad sensitifrwydd a synhwyraidd tebyg i’r hyn mae unigolion awtistig yn brofi ar y bws Awtistiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Trenholme, Aelod Cabinet dros Blant a Chefnogi Teuluoedd:
“Mae cynnal digwyddiadau yn ein cymunedau i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau, y cymorth a chyngor sydd ar gael yn y maes niwroamrywiaeth yn holl bwysig. Mae awtistiaeth yn gyflwr niwroddatblygiadol neu'n wahaniaeth sy'n effeithio ar y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio ac yn dehongli'r byd o'u cwmpas, ac yn aml mae plant, pobl ifanc ac oedolion awtistig yn ei chael hi’n anodd cael y gefnogaeth arbenigol sydd ei hangen arnynt.
“Rydym wedi ymrwymo i wella’n darpariaeth yma yng Ngwynedd ac mae gwneud hi’n haws i unigolion a’u teuluoedd gael mynediad at wybodaeth yn gam ymlaen.”
Bydd y digwyddiadau yn cael eu cynnal yng Ngwesty'r Celtic Royal, Caernarfon ar 18/2/25 ac yn Y Ganolfan, Porthmadog ar 4/3/25 rhwng 10.00am a 4.00pm.
Am fwy o wybodaeth neu i gofrestru eich diddordeb yn y digwyddiadau gellir cysylltu ar e-bost awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru neu ffôn:01766 772570
Gellir hefyd cofrestru drwy’r ddolen yma: Sioe Deithiol Niwro Gwynedd / Gwynedd Neuro Roadshow