Teyrnged i'r diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

Dyddiad: 07/02/2025

Mae Cadeirydd ac Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi talu teyrnged i’r diweddar Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a gynrychiolodd etholwyr Meirionnydd yn Senedd San Steffan, ac yna etholwyr Dwyfor a Meirionnydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Senedd am 40 mlynedd.

 

Meddai’r Cynghorydd Beca Roberts, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:

 

“Rydym i gyd wedi ein tristau o glywed am farwolaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Gwasanaethodd ei ardal yn driw am ddegawdau a gwnaeth gyfraniad enfawr nid yn unig i Feirionnydd a Dwyfor, ond hefyd i Gymru fel cenedl.

 

“Bydd coffa da amdano yma yng Nghyngor Gwynedd fel un a weithiodd yn ddiflino dros ei ardal  a dros Gymru.

 

“Fel Cyngor, anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at ei deulu a’i gyfeillion.”

 

Meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

 

“Roedd yn ddrwg iawn gennyf glywed y newyddion trist am farwolaeth Dafydd Êl, ac rwyf yn meddwl am ei deulu yn eu galar.

 

“Mae cyfraniad Dafydd i’r genedl a’n hiaith yn amhrisiadwy. Roedd yn Gymro i’r carn ac yn un o’n cewri gwleidyddol. Mae gwaddol ei weledigaeth a’i waith i’w weld o’n cwmpas ym mhob man. Oni bai am Dafydd, ni fyddai Cymru y wlad ydi hi heddiw.

 

“Ar nodyn personol, roeddwn yn adnabod Dafydd ers i mi weithio  yn San Steffan yn 1998. Roedd yn fraint ei adnabod ac mae ei gyfraniad eithriadol i Gymru yn ysbrydoliaeth.”