Ysgol Godre'r Berwyn yn gweld budd gwelliannau teithio llesol

Dyddiad: 13/02/2025
Mae gwelliannau i lwybrau ger Ysgol Godre’r Berwyn yn cael effaith gadarnhaol ac yn galluogi mwy o ddisgyblion a thrigolion i gerdded a beicio yn yr ardal yma yn nhref Y Bala.

Yn dilyn pryderon am ddiogelwch disgyblion yn ardal Ysgol Godre’r Berwyn, Y Bala dros y blynyddoedd, sicrhaodd Cyngor Gwynedd £248,000 o gyllid o gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru i wella opsiynau teithio llesol ger yr ysgol.

Meddai Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago:

“Fel Cyngor, rydan ni wedi ymrwymo i alluogi mwy o deithio cynaliadwy yn ein cymunedau, a’i gwneud yn haws i blant a theuluoedd i allu cerdded neu feicio ar gyfer y daith i ac o’r ysgol.

“Mae’r buddsoddiad yma’n Y Bala yn dangos beth sy’n bosib. Gyda’r cynllun yn ei le ers rhai misoedd bellach, mae diogelwch wedi gwella ac mae’n cynnig mwy o opsiynau teithio llesol y tu allan i’r ysgol.”

Dywedodd Bethan Emyr, Pennaeth Ysgol Godre’r Berwyn:

“Mae’r cynllun newydd eisoes wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol. Mae cerbydau bellach yn gadael y maes parcio mewn modd rheoledig a threfnus, gan wella diogelwch pawb yn ein cymuned ysgol.

“Mae’r ychwanegiad o lwybrau cerdded pwrpasol yn sicrhau bod disgyblion yn gallu cerdded i’r ysgol yn ddiogel, gan hyrwyddo ffordd o fyw iachach ac annog llai o rieni i ddefnyddio ceir i ollwng eu plant yn yr ysgol.

“Mae’r newidiadau hyn nid yn unig wedi gwella diogelwch ein disgyblion, staff a rhieni, ond hefyd wedi annog dull mwy cyfeillgar i’r amgylchedd o deithio i’r ysgol.”

Mae’r gwaith ger Ysgol Godre’r Berwyn wedi arwain at wella’r cysylltiadau beicio o amgylch yr ysgol, gan ei gwneud yn fwy hwylus a diogel i ddisgyblion a’u teuluoedd i gerdded a beicio i ac o’r ysgol.

Roedd y cynllun wedi golygu cydweithio agos rhwng Cyngor Gwynedd a nifer o randdeiliaid yn cynnwys Ysgol Godre'r Berwyn, yr aelod lleol a Chymdeithas Gymunedol Y Bala a Phenllyn fel tirfeddiannwr yn yr ardal sydd wedi galluogi creu llwybr newydd i greu cysylltiad addas i gefn yr ysgol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, sy’n cynrychioli’r Bala ar Gyngor Gwynedd:

“Roedd hwn yn gynllun yr oedd nifer wedi bod yn awyddus ei weld ers blynyddoedd, ac mae’n braf iawn gweld fod yr ysgol yn gweld budd o’r cynllun yn barod.

“Mae’n esiampl o’r gwaith cadarnhaol gan Gyngor Gwynedd i hwyluso cyfleoedd i drigolion allu cerdded a beicio ar siwrneiau lleol pryd bynnag mae hynny’n bosib – a hynny er budd iechyd a lles personol ac i dorri lawr ar allyriadau carbon di-angen.”

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi sicrhau cyllid o gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cyfleusterau cerdded a beicio ger Ysgol Treferthyr, Cricieth ac Ysgol Rhostryfan eleni.