Arddangosfa gyffrous o waith celf gyfoes gan rhai o'r gorau o Gymru yn Storiel

Dyddiad: 17/04/2025

Mae arddangosfa newydd wedi agor ei drysau yn Storiel, Gwynedd fis Ebrill sy’n dwyn ynghyd gwaith yr artistiaid Shani Rhys James a Stephen West. Wedi byw gyda'i gilydd am fwy na 45 mlynedd, mae'r ddau wedi canolbwyntio ar wahanol themâu a dulliau gweithredu yn eu hymarfer artistig.

Bydd y gweithiau yn yr arddangosfa yn cysylltu ac yn gwrthgyferbynnu. Mae'r arddangosfa yn canolbwyntio ar y 'gofod mewnol'; yn feddyliol ac yn gorfforol. Boed yn hunanbortreadau pwerus ac emosiynol Shani yn y stiwdio neu'r gegin, neu naratif Stephen sy'n gofyn cwestiynau, sy’n archwilio persbectif ac yn lluniadu pensaernïaeth, ffigurau, coed ac anifeiliaid.

Mae Shani a Stephen wedi disgrifio’r edefyn cyffredin sydd rhwng eu gwaith fel:

“Deall a gosod pobl o’n bywydau mewnol neu allanol yn y gofod gwirioneddol neu ddychmygol. Gallai hyn fod yn ofod mewnol y dychymyg neu'n ofod symbolaidd llun neu'n ofod gwirioneddol ystafell – gyda'i lloriau, nenfydau, drysau, toeau neu ddodrefn ac addurniadau.”

Dywedodd Esther Roberts, Swyddog Celf Gweledol Storiel:

“Yn ogystal â benthyciadau gan ein sefydliadau cenedlaethol, mae'r ddau wedi cynhyrchu gwaith newydd mewn ymateb i adeilad a chasgliadau Storiel. Mae Shani wedi cael ei ysbrydoli gan un o'r ffrogiau 'paisley' yng nghasgliad Storiel tra bod Stephen wedi cael ei ysbrydoli gan hanes a phensaernïaeth yr adeilad yn ei luniau ar raddfa fawr."

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

“Rydym yn ffodus iawn o allu croesawu’r arddangosfa yma i  Storiel. Mae hyn wedi'i wneud yn bosibl drwy nawdd CELF - prosiect Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect yma yn un gwerthfawr sy’n gwneud casgliadau cenedlaethol yn fwy hygyrch i bawb gan ddarparu mynediad drwy raglen fenthyca ar draws rhwydwaith o Orielau ledled Cymru, yn ogystal ag yn ddigidol drwy wefan Celf ar y Cyd."

Roedd dipyn o fwrlwm yn agoriad yr arddangosfa nos Wener, 11 Ebrill, 2025, gyda Morfudd Bevan o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn dweud ychydig eiriau.

Bydd yr arddangosfa yn rhedeg tan ddydd Sadwrn 28 Mehefin, 2025.

Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.

Am ragor o wybodaeth ymwelwch â gwefan Storiel: www.storiel.cymru