Campws Cymunedol Bontnewydd yw seren y sioe

Dyddiad: 14/04/2025

Mae disgyblion Ysgol Bontnewydd wedi dod a’u gweledigaeth ar gyfer eu hysgol newydd yn fyw drwy berfformio drama ar gyfer cynulleidfa o bob cwr o Gymru.

Mae’r gwaith o ddatblygu Campws Cymunedol Bontnewydd yn dod yn ei flaen yn dda, wedi i’r prosiect fod yn un o dim ond tair ysgol drwy Gymru i ennill nawdd Her Ysgolion Cynaliadwy yn 2023 er mwyn codi ysgol newydd sbon ynghyd ag adnoddau cymunedol o’r radd flaenaf. 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Cyngor Gwynedd weithdy ar gyfer cynrychiolwyr o’r dair ysgol o’r Her Ysgolion Cynaliadwy,  Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn arddangos a thrafod cynlluniau adeilad newydd Ysgol Bontnewydd. Un o uchafbwyntiau’r digwyddiad oedd perfformiad drama byr gan ddisgyblion Blwyddyn 2 Ysgol Bontnewydd, a rannodd beth mae eu hysgol werdd newydd yn ei olygu iddyn nhw.

Bydd cynllun adeiladwaith a'r elfennau o gwmpas Campws Cymunedol Bontnewyddyn adlewyrchu dyheadau Cyngor Gwynedd i fod yn arloesol, yn flaengar, yn gyfoes ac yn amgylcheddol gyfeillgar. Un o nodweddion hynotaf yr ysgol newydd yw’r pwyslais ar gadw ôl-troed carbon y prosiect mor fychan â phosib.

Er mwyn gwireddu’r nod yma, bydd deunyddiau adeiladu o hen ysgol arall yn y sir yn cael eu hail-ddefnyddio ar gyfer Campws Bontnewydd. Cafodd mynychwyr y gweithdy  gyfle i ymweld ag iard ailgylchu leol er mwyn gweld y gwaith o ail-bwrpasu deunyddiau gan gynnwys llechi, brics, a phren.

Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i gynrychiolwyr o'r tair ysgol sy’n rhan o’r Her Ysgolion Cynaliadwy, plant Ysgol Bontnewydd, awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill ddod ynghyd i rannu diweddariadau, heriau a syniadau arloesol, gan gyfrannu at fomentwm y prosiectau ledled Cymru.

Unwaith y bydd wedi'i chwblhau, bydd lle i 210 o ddisgyblion yng Nghampws Cymunedol Bontnewydd, gyda darpariaeth feithrin ar gyfer 30 o blant. Bydd darpariaethau ar gyfer Cylch Meithrin ac ADY  yn yr adeilad newydd ynghyd â chanolfan gymunedol newydd sbon ar y safle, yn darparu gofod modern ar gyfer trigolion yr ardal.

Dywedodd yr Aelod Lleol dros Bontnewydd, y Cynghorydd Menna Trenholme:

“Mae’n hynod gyffrous bod plant sy’n mynychu ysgol Bontnewydd yn cael cyfle i ddysgu am waith adeiladu ac ailgylchu, a chwarae rhan hanfodol wrth ddylunio eu hysgol newydd. Dw i’n falch bod lleisiau plant, staff yr ysgol a thrigolion Bontnewydd yn cael eu clywed wrth i’r ysgol newydd gael ei dylunio. Fedra i ddim aros i weld yr adeilad newydd yn dod yn adnodd addysgu a chymunedol gwych.”

Dywedodd Gareth Wyn Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Bontnewydd:

“Roedd hi’n bleser cymryd rhan yn y gweithdy yn ddiweddar er mwyn dangos i bawb beth mae ysgol newydd eco gyfeillgar ac arloesol yn ei olygu i blant Blwyddyn 2 Ysgol Bontnewydd. Fe wnaeth pob un ohonynt argraff ar y gynulleidfa ac roedd cael perfformio o flaen timau prosiect o’r ddwy sir arall sydd wedi ennill yr her a swyddogion o Lywodraeth Cymru yn brofiad gwerth chweil iddynt. 

“Nid pob dydd mae Awdurdod Lleol yn ennill ysgol newydd drwy gymryd rhan mewn her o’r fath, ac rydym yn hynod o falch o fod wedi cael bod yn rhan o’r cais gwreiddiol ac wedi cael rhoi mewnbwn i’r broses penodi penseiri a dylunio’r ysgol newydd. Mae syniadau’r dysgwyr wedi bod yn werthfawr er mwyn ystyried dulliau gwyrdd o insiwleiddio’r adeilad gyda gwlân defaid a defnyddio paneli solar i gynhyrchu trydan. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at y cyfnod nesaf ble bydd gweledigaeth y Cyngor a phlant a chymuned Bontnewydd yn cael ei wireddu.”