Darpariaeth newydd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar draeth Morfa Bychan

Dyddiad: 17/04/2025

Bydd defnyddwyr cadeiriau olwyn yn medru cael gwell mwynhad o draeth poblogaidd Morfa Bychan wedi i Gyngor Gwynedd fuddsoddi mewn cadeiriau olwyn pwrpasol sydd ar gael i’w llogi am ddim.

O’r gwyliau Pasg hyd nes ddiwedd fis Medi bydd y cadeiriau olwyn, sydd wedi'u cynllunio i bobl anabl sydd â symudedd cyfyngedig, ar gael ar gyfer mwynhad o’r traeth a’r dŵr. 

Mae’r cadeiriau yn ateb arloesol i'r problemau y gallai cadeiriau olwyn arferol eu profi ar y traeth. Mae hyn yn cynnwys:

  • olwynion mawr ar y gadair i wneud teithio dros y tywod yn haws,
  • y gallu i arnofio i fwynhau yn y môr yn ddiogel,
  • harnais addasadwy i sicrhau bod y defnyddiwr yn ddiogel a chyfforddus yn y gadair.

Meddai Helen Griffiths, un o ddefnyddwyr cyntaf y cadeiriau olwyn:

"Mae'n wych gallu dod i'r traeth a mwynhau'r cadeiriau olwyn. Maent yn gwneud bywyd lot haws i mi fel defnyddiwr cadair olwyn yn dod i'r traeth. Mae’n rhoi llawer fwy o ryddid i mi wrth ddod yma, ac yn lle gorfod eistedd ar y traeth mewn cefn cerbyd, rwyf rwan yn gallu dod i ddefnyddio’r cadeiriau olwyn, cymryd rhan a mwynhau’r traeth yn ei gyfanrwydd. Fyddai yma bob diwrnod!"

Dywedodd y Cynghorydd Gwilym Jones, Aelod lleol dros Borthmadog (Gorllewin):

"Dros y blynyddoedd rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau am ddarpariaeth fel hyn ar draeth Morfa Bychan, gan ei fod yn draeth hynod boblogaidd ac unigryw.  Mae caniatâd yn barod i gerbydau yrru a pharcio ar y traeth, sy’n ei gwneud hi’n hwylus i ddefnyddwyr sydd ag amhariadau corfforol. 

“Mae cadeiriau tebyg wedi bod ar gael ers tro i’w llogi ar draethau Pwllheli ac Abersoch yn dilyn cefnogaeth gan elusen leol (Wheely Pete). Dwi’n hapus iawn gweld bod y Cyngor wedi buddsoddi mewn darpariaeth debyg ar gyfer traeth Morfa Bychan - mae llethr ysgafn y traeth yn ei gwneud hi’n ddelfrydol i’r math yma o ddarpariaeth.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod lleol dros Borthmadog (Dwyrain) ac Arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Mae mynd i lan-y-môr yn gyfle gwych i fwynhau golygfeydd a byd natur Gwynedd ar ei orau, heb sôn fod cael gwynt y môr yn llesol i’n hiechyd meddwl. Mae’n hynod bwysig fod pawb yn cael cyfle teg i fwynhau popeth sydd gan draeth Morfa Bychan i’w gynnig felly dwi’n falch fod y buddsoddiad hwn yn y cadeiriau olwyn newydd yn agor drysau newydd i bobl.

“Byddwn yn annog trigolion lleol ac ymwelwyr sy’n awyddus i fynd i lan-y-môr ond sy’n ei chael yn anodd oherwydd symudedd cyfyngedig i roi cynnig ar y cadeiriau olwyn newydd yma.

“Diolch yn fawr iawn i Helen am godi’r angen am y cadeiriau hefo mi – dwi’n hynod o falch o weld y cadeiriau yma a gobeithio gweld y cynllun yn mynd o nerth i nerth wrth i fwy o bobol ddefnyddio’r cadeiriau olwyn.”

Nid oes cost am logi’r cadeiriau olwyn a bydd swyddogion o’r Gwasanaeth Morwrol yn dangos ac egluro sut mae defnyddio’r cadeiriau yn ddiogel.

Mae’r cadeiriau ar gael i’w llogi yn ddyddiol (yn amodol ar argaeledd) o Basg 2025 hyd at ddiwedd Medi 2025.