Gwesty'r Corbett Arms, Tywyn – diweddariad
Dyddiad: 16/04/2025
Fel sydd wedi ei adrodd yn
flaenorol, mae cyflwr adeilad Gwesty'r Corbett Arms yn Nhywyn wedi bod yn achos pryder i Gyngor Gwynedd a'r gymuned leol ers blynyddoedd.
Cyfrifoldeb perchennog adeilad ydi sicrhau ei fod yn cael ei gynnal i’r safon angenrheidiol. Er ymdrechion mynych i ddiogelu a sicrhau defnydd hirdymor yr adeilad rhestredig Gradd II, yma mae cyflwr yr adeilad wedi parhau i ddirywio.
Gwelwyd cwymp sylweddol yng nghefn yr adeilad ddiwedd mis Ionawr eleni, gyda chwymp pellach ar do'r ystafell ddawns ddiwedd Chwefror. Bu’n rhaid i'r Cyngor gymryd camau ar unwaith i amddiffyn y cyhoedd ar adeg y cwymp cychwynnol sydd wedi cynnwys cau ffordd yn rhannol, codi ffensys diogelwch a monitro parhaus o'r adeilad.
Fe wnaeth Cyngor Gwynedd ymgynnull grŵp prosiect gydag ystod o arbenigedd i reoli a gweithredu ei ymateb i'r mater, ac mae'r Cyngor hefyd yn ymgynghori'n rheolaidd â Cadw yn ogystal â'r Comisiwn Brenhinol.
Yn sgil y gwaith monitro parhaol o’r adeilad mae’n rhaid cymryd camau brys i gau Stryd Maengwyn, Sgwâr Corbett a Stryd y Llew Coch i draffig dros-dro o 17 Ebrill ymlaen gyda mynediad cyfyngedig ar gyfer danfon nwyddau busnes ar Sgwâr Corbett a Stryd y Llew Coch. Rhagwelir y gall y ffordd fod ar gau am 8 i 12 wythnos ond bydd hyn yn cael ei adolygu’r rheolaidd.
Mae’r Cyngor yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster i drigolion a busnesau a bod y camau brys yma wedi gorfod cael eu gweithredu ar fyr rybudd ar sail diogelwch y cyhoedd.
Fel adroddwyd eisoes, ar ôl ystryriaeth ofalus o gyngor arbenigol am gyflwr strwythurol yr adeilad, o ystyried diogelwch y cyhoedd yn ogystal â'r ffaith bod yr adeilad wedi'i restru, nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cyflwyno cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel.
Yn anffodus, mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio i'r pwynt lle mae rhaid gweithredu ar unwaith i amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd.
O ganlyniad, mae'r Cyngor wedi comisiynu cwmni arbenigol i arwain ar waith dymchwel a diogelu brys. Fel rhan o’r gwaith yma, bydd gwaith o osod sgaffaldiau ar yr adeilad yn cychwyn o 17 Ebrill, a hynny er mwyn galluogi cychwyn ar y gwaith dymchwel angenrheidiol.
Nodiadau:
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi'r rhybuddion canlynol ynglŷn ag adeilad Gwesty'r Corbett Arms:
- Wyth hysbysiad o dan Adran 78 (adeiladau peryglus) o Ddeddf Adeiladu 1984
- Tri hysbysiad o dan Adran 79 (adeiladau dinistriol ac adfeiliedig) o Ddeddf Adeiladu 1984