Gwynedd yn sicrhau £4.6 miliwn o grantiau trafnidiaeth ar gyfer 2025/26
Dyddiad: 15/04/2025
Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn cadarnhad o gyfanswm grantiau trafnidiaeth gwerth £4.6 miliwn. Bydd hyn yn galluogi gwireddu amrediad o gynlluniau trafnidiaeth cynaliadwy yn y sir yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
Yn benodol, mae’r grantiau trafnidiaeth canlynol wedi eu dyfarnu i Gyngor Gwynedd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26:
- Y gronfa teithio llesol: Cyllid craidd o £500,000, yn ogystal â £1.4 miliwn ar gyfer Bangor (cam 3 – Ffordd Penrhos/ Penchwintan). Ariennir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru.
- Y gronfa drafnidiaeth leol: £1.5 miliwn ar gyfer Sherpa'r Wyddfa, G23, Fflecsi a'r seilwaith bysiau a £540,000 ar gyfer cynllun Gwella Trafnidiaeth Llanbedr.
- Y gronfa ffyrdd cydnerth: £275,000 ar gyfer A4085 Waunfawr i Gaeathro.
- Diogelwch ffyrdd: £54,000 ar gyfer gweithredu terfyn cyflymder 20mya, £40,300 ar gyfer Kerbcraft, £24,000 ar gyfer Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol, £11,800 ar gyfer Pass Plus.
- Llwybrau diogel mewn cymunedau: £160,000 ar gyfer Ysgol Foelgron, Mynytho.
- Y gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn: £105,000 ar gyfer strategaeth gwefru cerbydau trydan.
Meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Mae’n newyddion da fod Cyngor Gwynedd wedi sicrhau dros £4.6 miliwn o grantiau trafnidiaeth o goffrau Llywodraeth Cymru. Yn yr hinsawdd presennol, mae’r grantiau trafnidiaeth yma yn allweddol er mwyn ein galluogi i wireddu cynlluniau fydd yn elwa cymunedau’r sir.
“Eleni, bydd grant o £1.4 miliwn yn ein galluogi i barhau gyda’r cynllun teithio llesol ar Ffordd Penrhos/ Penchwintan ym Mangor. Dros y blynyddoedd, mae traffig trwm wedi achosi pryder sylweddol i drigolion yr ardal, ac mae’r cynllun yma yn ymateb i hynny drwy ei gwneud yn haws i bobl gerdded a beicio rhwng dinas Bangor a Phenrhosgarnedd.
“Yn ogystal â £540,000 ar gyfer parhau gyda’r gwaith o adnabod cynllun fydd yn adnabod datrysiad i wella mynediad a phroblemau traffig sylweddol yn Llanbedr, bydd £1.5 miliwn o’r gronfa trafnidiaeth leol yn ein galluogi i fuddsoddi yn rhwydwaith cludiant cynaliadwy’r sir. Yn benodol, byddwn yn defnyddio’r cyllid i gefnogi llwybrau bws Sherpa’r Wyddfa, gwasanaethau Fflecsi yn ne Meirionnydd a gwasanaeth y G23 sy’n cynnig gwasanaethau bws Abermaw – Harlech – Porthmadog.
“Mae cynlluniau diogelwch ffyrdd hefyd wedi derbyn cefnogaeth ariannol ar gyfer parhau gyda’r gwaith o gynnig cefnogaeth addysgol i ysgolion ac yn y gymuned. Sicrhawyd £160,000 hefyd o gronfa llwybrau diogel mewn cymunedau ar gyfer cynllun yn Ysgol Foelgron ym Mynytho, gyda £275,000 o gronfa ffyrdd cydnerth ar gyfer cynllun ar yr A4085 rhwng Waunfawr a Chaeathro.”
Mae rhagor o fanylion am grantiau trafnidiaeth a ddyfarnwyd i gynghorau Cymru ar gyfer 2025/6 i’w gweld yma.