Mwynhau atyniadau Gwynedd yn ddiogel dros y Pasg

Dyddiad: 11/04/2025

Gyda penwythnos y Pasg yn agosáu, mae sefydliadau lleol yng Ngwynedd yn atgoffa pobl sy’n bwriadu ymweld ag atyniadau poblogaidd y sir i gynllunio o flaen llaw ac i fod yn ystyrlon o gymunedau lleol.

Mae gwyliau’r Pasg yn nodi dechrau’r tymor ymwelwyr yng Ngwynedd a bydd yr ardal yn prysuro’n sylweddol dros yr wythnosau a misoedd nesaf.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio’n agos gyda partneriaid – gan gynnwys Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri – i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol wrth iddynt fwynhau amgylchedd naturiol, golygfeydd bendigedig ac atyniadau gwych Gwynedd.

Rhai o’r prif negeseuon mae’r awdurdodau yn awyddus i gyfleu i bobl sy’n ymweld ydi:

  • Cynllunio o flaen llaw – gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich ymweliad a gweithgareddau o flaen llaw er mwyn sicrhau eich diogelwch eich hun ac eraill;
  • Parciwch yn gyfrifol – gwiriwch ble mae’r meysydd parcio pwrpasol ac unrhyw drefniadau sydd angen eu gwneud. Mae gwybodaeth am feysydd parcio Cyngor Gwynedd ar y wefan www.gwynedd.llyw.cymru/parcio Os ydych yn parcio ar hyd yr arfordir, gwiriwch amseroedd y llanw cyn gadael eich car.
  • Cartrefi modur – cofiwch fod gan y Cyngor safleoedd Arosfan penodol ar gyfer parcio cartrefi modur dros-nos. Mwy o fanylion ar y wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/arosfan
  • Trafnidiaeth gyhoeddus – os yw’n bosib, defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn torri lawr ar dagfeydd a phroblemau parcio mewn ardaloedd poblogaidd, ac er budd yr amgylchedd. Mae amserlenni bws Gwynedd, gan gynnwys Sherpa’r Wyddfa, ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/bws
  • Parchwch ein cymunedau – byddwch yn ystyrlon o’r amgylchedd a dilynwch unrhyw reoliadau neu arwyddion rhybydd lleol. Er enghraifft gwaredwch o’ch sbwriel yn gyfrifol trwy naill ai ei roi mewn bin cyhoeddus neu fynd ag ef adref. Dylai perchnogion cwn bob amser godi a gwaredu llanast eu hanifail anwes. 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

“Rydym wedi gweld niferoedd mawr o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd yma yng Ngwynedd dros y blynyddoedd diweddar.

“Tra’n bod yn falch o groesawu pobl o bell ac agos i fwynhau’r hyn sydd gan Wynedd i’w gynnig, rydym hefyd yn annog pobl i fod yn barchus a chynllunio’u hymweliadau o flaen llaw; i ddefnyddio’r meysydd parcio priodol a phan yn bosib i ddefnyddio gwasanaethau bws i grwydro’r ardal.

“Mae amserlen tymor yr haf gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa bellach yn ei le, sy’n golygu fod bysus yn rhedeg yn amlach, ac sy’n cysylltu llwybrau poblogaidd Yr Wyddfa a’r trefi a’r pentrefi cyfagos.

“Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff ar draws y cyrff yma’n cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel ar y ffyrdd, a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gadw hyn mewn cof wrth ymweld â’r ardal a’u trin gyda pharch a charedigrwydd bob amser.

“Mae’n bwysig fod ein ffyrdd yn glir er mwyn sicrhau llif traffig, ac wrth gwrs i ganiatáu’r gwasanaethau brys i fedru gwneud eu gwaith. Gofynnwn felly i fodurwyr barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel.

“Ein neges ydi i fodurwyr barcio yn synhwyrol. Os bydd angen, bydd swyddogion yr Heddlu a’r Cyngor yn defnyddio eu pwerau i gymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon, a hynny er diogelwch y cyhoedd.

Ychwanegodd Jonathan Cawley, Prif Weithredwr Parc Cenedlaethol Eryri: “Da ni wir eisiau i bawb fwynhau yr holl sydd gan Eryri i’w gynnig ond rydym yn annog pawb i wneud hynny mewn ffyrdd gynaliadwy. Mae’n hanfodol i bawb gynllunio eu hymweliadau o flaen llaw, gwneud y defnydd gorau o’r cynnydd mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a pharchu’r egwyddor o pheidio gadael unrhyw ôl o’ch hymweliad.

“Mae ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i ymgyfarwyddo a’r Côd Cefn Gwlad a dilyn yr argymhellion er mwyn gwarchod tirweddau, cymunedau a bioamrywiaeth unigryw y Parc Cenedlaethol.”

Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol am gynllunio ymlaen llaw ar wefannau Eryri Mynyddoedd a Môr: www.ymweldageryri.info/cy/cynllunio-eich-ymweliad a Pharc Cenedlaethol Eryri: www.eryri.llyw.cymru/ymweld/cynllunio-eich-ymweliad/