Statws Treftadaeth y Byd yn arwain at fanteision diwylliannol ac economaidd ym Methesda

Dyddiad: 07/04/2025

Mae cymuned Bethesda wedi elwa yn ddiweddar o fuddsoddiad ariannol gwerth dros £3 miliwn a fydd yn arwain at adfywio dwy ganolfan ddiwylliannol yno.

Caiff y cynlluniau cyffrous eu gwireddu wedi i Neuadd Ogwen ac yr Hen Bost dderbyn nawdd prosiect Llewyrch o'r Llechi; rhaglen fuddsoddi ddiwylliannol cysylltiedig â Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Gweinyddir y nawdd gan Gyngor Gwynedd, ac  ariennir gan Lywodraeth y DU.

Bydd y prosiectau yma yn cyfrannu at fynediad a mwynhad o ddiwylliant a threftadaeth o fewn y Safle Treftadaeth y Byd.

Neuadd Ogwen

Mae Neuadd Ogwen yn neuadd gyngerdd a chanolfan celfyddydau cymunedol poblogaidd ar Stryd Fawr Bethesda, gyda gigs yn gwerthu allan yn rheolaidd. Mae’r gwelliannau o osod gwrthsain hanfodol, yn ogystal â systemau golau a sain o'r radd flaenaf yn golygu bod y ganolfan nawr yn medru cynnig profiad gwell i fynychwyr a lleihau effaith sŵn ar y gymuned leol.

Ers i'r gwelliannau gael eu cwblhau mae tri aelod newydd o staff wedi eu cyflogi gan y Neuadd, gan sicrhau dyfodol cyffrous a llewyrchus i'r lleoliad.

Gwnaed y gwaith gosod gan gwmni lleol i Fethesda; North Wales Sound & Lighting.

Dywedodd Dilwyn Llwyd, Rheolwr Neuadd Ogwen:

"Mae'r buddsoddiad a'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn gwneud i Neuadd Ogwen deimlo fel canolfan gelfyddydol a lleoliad cerddoriaeth go iawn, ac mae'r dyfodol yn edrych yn llewyrchus.”

Ychwanegodd Lisa Jên Brown, actores a pherfformiwr gyda’r band Cymreig 9Bach:

"Dwi wedi gweld Neuadd Ogwen yn datblygu dros y blynyddoedd - o'r adeg pan ddechreues i allan a chwarae yn y cyntedd, i chwarae o flaen cannoedd o bobl.

"Fel rhywun o'r ardal - ac fel artist - dwi'n falch iawn o gael y lleoliad yma ym Methesda.

Yr Hen Bost

Mae menter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen yn arwain ar y gwaith o drawsnewid hen adeilad Spar ar Stryd Fawr Bethesda er mwyn cynnig darpariaeth i drigolion lleol yn ogystal ag ymwelwyr. 

Mae’r cynlluniau ar gyfer y safle yn cynnwys:

  1. Canolfan dreftadaeth,
  2. unedau busnes,
  3. bwyty,
  4. cyfleusterau llogi beiciau,
  5. gofod preswyl.

 

Bydd y datblygiad yn cynnig gofod fydd yn galluogi i ymwelwyr dreulio amser a gwario eu harian ar Stryd Fawr Bethesda, ac yn gyfle i werthfawrogi hanes a threftadaeth yr ardal. Penodwyd Penseiri PEGWA ar gyfer dylunio’r adeilad ar ei newydd wedd, gyda chylch gwaith i adlewyrchu treftadaeth chwarelyddol yr ardal, yn ogystal â chwrdd â safonau amgylcheddol a chynaliadwyedd.

Yn dilyn y gwaith adnewyddu, sydd yn cael ei gyflawni gan gwmni Grosvenor Construction Ltd, bydd yr Hen Bost yn agor ar ei newydd wedd yn ystod y Gwanwyn, 2026.

Mae'r prosiect yma wedi derbyn nawdd ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Meddai Dyfrig Jones, Cadeirydd Partneriaeth Ogwen:

"Mae'r Hen Bost yn brosiect sydd wedi'i wreiddio yn Safle Treftadaeth y Byd a'i hanes, ond hefyd am edrych ymlaen, a dathlu treftadaeth fyw Bethesda a Dyffryn Ogwen.”

Mae'r buddsoddiadau ym Methesda yn rhan o brosiect ehangach Llewyrch o'r Llechi, sy'n gweld prosiectau cyfalaf yn cael eu gweithredu yn y dirwedd llechi er mwyn dathlu'r dreftadaeth a'r diwylliant unigryw, a gwella mynediad a dealltwriaeth o’r Safle Treftadaeth y Byd.

Nododd yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru:

"Rwy'n hynod o hapus i weld y datblygiadau hyn yn digwydd - dyma un o'r prif resymau dros gael y dynodiad UNESCO.

"Mae buddsoddiadau fel hyn yn helpu i sicrhau bod y cymunedau hyn yn tyfu - fel cymunedau byw - lle gall pobl ifanc aros a ffynnu. Mae'n bwydo i mewn i'n hunaniaeth ddiwylliannol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd:

"Mae'n wych gweld cymunedau'n dod at ei gilydd, a gweld un prosiect yn dechrau wrth i'r llall agosáu at ei gwblhau, a gweld manteision buddsoddiad Llechi Cymru."