Cyngor Gwynedd i benderfynu ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4

Dyddiad: 08/07/2024

Mae adroddiad a fydd y cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Gwynedd ar 16 Gorffennaf yn argymell cadarnhau gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.

 

Byddai’r cam arloesol yma yn galluogi’r Cyngor fel Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr. Byddai’r newid yn dod i rym o 1 Medi 2024

 

Fe wnaeth y Cyngor gynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ystod Awst a Medi 2023, ac mae’r holl sylwadau a dderbyniwyd wedi derbyn ystyriaeth gofalus. Ystyriwyd y sylwadau ac ymateb y Cyngor mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor fis Mai, lle cefnogwyd y gwaith sydd wedi ei gynnal ar y broses a gwnaethpwyd argymhelliad i’r Cabinet gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.

 

“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

 

“Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.  

 

“Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, byddai gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau. Byddai’r newid yn golygu y byddai angen i berchnogion gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo preswyl yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr.

 

“Os bydd y Cyngor yn penderfynu bwrw ymlaen, Gwynedd fyddai’r Awdurdod Cynllunio cyntaf i ddefnyddio’r pwerau cynllunio newydd yma a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.

 

“Mae gwaith manwl wedi ei gynnal dros y flwyddyn ddiwethaf i sefydlu’r achos dros gyflwyno’r newid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.

 

“Mae’r sylwadau wedi derbyn ystyriaeth gofalus ym Mhwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor a bydd y Cabinet rŵan yn ystyried yr holl dystiolaeth wrth benderfynu os am gadarnhau i weithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 o fis Medi ymlaen.”

 

Os ydi’r Cabinet yn penderfynu cadarnhau, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol o 1 Medi 2024, a hynny yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri). Ni fyddai’r newid yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.

 

Am ragor o wybodaeth am Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/Erthygl4

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â newidiadau arloesol i'r fframwaith cynllunio, gan roi grym i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr y dyfodol.

 

Mae newidiadau i'r fframwaith cynllunio cenedlaethol wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef, prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol y pŵer i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall trwy ddatgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir. Mae posib datgymhwyso'r hawliau hyn drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Os bydd yn cael ei gadarnhau, Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am ei weithredu.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer ardal Dwyfor fel y bydd modd rhannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu o ardal y peilot ledled y wlad.

 

Nodiadau:

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod ‘Rhybudd ’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). 

 

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu heb yr angen am hawl cynllunio, ar gyfer y canlynol:

 

  • Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.   

 

Gweler rhagor o fanylion am y Dosbarthiadau Defnydd isod:

 

Dosbarth Defnydd

 

Eglurhad

Dosbarth C3. Tŷ Annedd; Prif Gartrefi

Defnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan:

(a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd sydd yn nosbarth C4).

 

Dehongli Dosbarth C3:

  • Wrth gyfrifo'r 183 o ddiwrnodau, mae unrhyw amser a dreulir gan un aelwyd mewn llety a ddarperir at ddibenion galwedigaethol, megis rigiau olew neu farics, yn cyfrannu at y 183 o ddiwrnodau.

 

Dosbarth C5. Tŷ Annedd; Cartrefi eilaidd

Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai gan:

(a) un person neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn dosbarth C4).

 

Dehongli Dosbarth C5:

  • At ddibenion Dosbarth C5(a), dehonglir “un aelwyd” yn unol ag adran 258 o Ddeddf Tai 2004

 

Dosbarth C6. Llety gosod tymor byr

Defnyddio tŷ annedd fel llety gosod tymor byr masnachol am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau (ar gyfer pob cyfnod meddiannu).

 

 

 

Fe wnaeth y Cyngor gynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus o 2 Awst tan 13 Medi 2023, a chafodd adroddiad yn ystyried yr adborth ac ymatebion iddynt ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ar 16 Mai.

 

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 16 Gorffennaf i’r aelodau ystyried y sylwadau fydd wedi eu derbyn a gwneud penderfyniad terfynol i gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ai peidio.

 

Os ydi’r Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol o 1 Medi 2024, a hynny yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig (nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri). Mae’r Parc yn ystyried y mater ar hyn o bryd ac mae cyfnod ymgysylltu cyhoeddus wedi ei gynnal yn ddiweddar ar weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Eryri.