Cyngor Gwynedd i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4

Dyddiad: 16/07/2024

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn argymhelliad i weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.

 

Bydd y cam arloesol yma yn galluogi’r Cyngor fel Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr. Bydd y newid yn dod i rym o 1 Medi 2024

 

Cynhaliwyd cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 gan y Cyngor yn ystod Awst a Medi 2023, ac mae’r holl sylwadau ddaeth i law wedi derbyn ystyriaeth gofalus. Rhoddwyd sylw i’r sylwadau ac ymateb y Cyngor mewn cyfarfod o Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor fis Mai, lle cefnogwyd y gwaith sydd wedi ei gynnal ar y broses a gwnaethpwyd argymhelliad i’r Cabinet gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4.

 

Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae Cyngor Gwynedd am weld pobl leol yn gallu cael mynediad at dai addas a fforddiadwy yn lleol – mae hynny yn allweddol er mwyn sicrhau dyfodol ein cymunedau ni.

 

“Yn anffodus, mae ymchwil yn dangos fod cyfran sylweddol o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai ac mae hynny i’w weld yn fwy amlwg mewn cymunedau lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.

 

“Mae’n anorfod felly fod y nifer sylweddol o dai sy’n cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn effeithio ar allu pobl Gwynedd i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.  

 

“Trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd gan y Cyngor arf newydd i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau. Bydd y newid yn golygu fod angen i berchnogion gyflwyno cais cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo preswyl yn ail gartrefi neu lety gwyliau tymor-byr, o 1 Medi ymlaen.

 

“Yn dilyn y penderfyniad hwn, Gwynedd fydd yr Awdurdod Cynllunio cyntaf i ddefnyddio’r pwerau cynllunio newydd yma a gyflwynwyd gan y Llywodraeth.

 

“Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwaith manwl wedi ei gynnal i sefydlu’r achos dros gyflwyno’r newid ac rydym yn ddiolchgar iawn i bawb wnaeth gymryd rhan yn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus.”

 

Ni fydd y newid yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.

 

Nodiadau:

 

Am ragor o wybodaeth am Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/Erthygl4

 

Yn dilyn penderfyniad y Cabinet, bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig. Nid yw’r penderfyniad hwn yn berthnasol i’r rhannau hynny o Wynedd sydd o fewn Ardal Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â newidiadau arloesol i'r fframwaith cynllunio, gan roi grym i awdurdodau lleol reoli niferoedd ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr y dyfodol.

 

Mae newidiadau i'r fframwaith cynllunio cenedlaethol wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef: prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol y pŵer i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall trwy ddatgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir. Mae posib datgymhwyso'r hawliau hyn drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am ei weithredu.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer ardal Dwyfor fel y bydd modd rhannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu o ardal y peilot ledled y wlad.

 

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu heb yr angen am hawl cynllunio, ar gyfer y canlynol:

 

  • Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.   

 

Gweler rhagor o fanylion am y Dosbarthiadau Defnydd isod:

 

Dosbarth Defnydd

 

Eglurhad

Dosbarth C3. Tŷ Annedd; Prif Gartrefi

Defnyddio tŷ annedd fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am fwy na 183 o ddiwrnodau mewn blwyddyn galendr gan:

(a) person sengl neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd sydd yn nosbarth C4).

 

Dehongli Dosbarth C3:

  • · Wrth gyfrifo'r 183 o ddiwrnodau, mae unrhyw amser a dreulir gan un aelwyd mewn llety a ddarperir at ddibenion galwedigaethol, megis rigiau olew neu farics, yn cyfrannu at y 183 o ddiwrnodau.

 

Dosbarth C5. Tŷ Annedd; Cartrefi eilaidd

Defnydd fel tŷ annedd, ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa, sy’n cael ei meddiannu am 183 o ddiwrnodau neu lai gan:

(a) un person neu gan bobl yr ystyrir eu bod yn ffurfio un aelwyd;

(b) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle darperir gofal i’r preswylwyr; neu

(c) dim mwy na chwe phreswylydd sy'n byw gyda'i gilydd fel un aelwyd lle na ddarperir gofal i’r preswylwyr (ac eithrio defnydd o fewn dosbarth C4).

 

Dehongli Dosbarth C5:

  • · At ddibenion Dosbarth C5(a), dehonglir “un aelwyd” yn unol ag adran 258 o Ddeddf Tai 2004

 

Dosbarth C6. Llety gosod tymor byr

Defnyddio tŷ annedd fel llety gosod tymor byr masnachol am gyfnod heb fod yn hwy na 31 o ddiwrnodau (ar gyfer pob cyfnod meddiannu).