Dathlu hwb ariannol o £2 filiwn i gymunedau llechi Gwynedd

Dyddiad: 15/07/2024

Mae partneriaeth a gafodd ei ffurfio i helpu cymunedau llechi Gwynedd i fanteisio ar eu statws Safle Treftadaeth Byd yn dathlu ar ôl llwyddo i sicrhau £2 filiwn ar gyfer eu gwaith.

Bydd £1.7 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri a chyfraniadau ychwanegol gan Gyngor Gwynedd, Cadw, Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Prifysgol Bangor a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ariannu prosiect newydd arloesol LleCHI LleNI  dros gyfnod o bum mlynedd, hyd at haf 2029. Gyda’r nod o ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o dreftadaeth llechi ardaloedd y Safle Treftadaeth y Byd, bydd y prosiect hwn gan Bartneriaeth Llechi Cymru yn cynnwys rhaglen eang o weithgareddau gan gynnwys:

  • Gweithgareddau awyr agored
  • Sesiynau creadigol a diwylliannol
  • Ymchwil cymunedol, a
  • Gweithgareddau i warchod ein treftadaeth.

Mae’r cyfan yn rhan allweddol o ymdrech ehangach y Safle Treftadaeth y Byd i ddod â phobl ardaloedd y chwareli at ei gilydd a defnyddio’r statws i hybu adfywio economaidd a chymdeithasol, a gwella cymunedau ar hyd a lled Gwynedd.

Mae’r llwyddiant yn dilyn cyllid a gafwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf sylweddol Llewyrch o’r Llechi drwy’r cynlluniau Ffyniant Bro a Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymgymryd a gwelliannau i ganol trefi y tirwedd llechi.

“Mae’r hwb ariannol enfawr yma’n newyddion gwych i froydd y chwareli a phawb sy’n byw ynddyn nhw,” meddai Yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Sfle Treftadaeth y Byd Llechi. “Bydd yn galluogi Partneriaeth Llechi Cymru, o dan arweiniad Cyngor Gwynedd, i weithio gyda phobl a chymunedau drwy holl ardaloedd y Safle Treftadaeth Byd a thu hwnt, gan roi nifer o gyfleoedd i bobl leol dderbyn hyfforddiant, datblygu sgiliau, ennill profiad a gwirfoddoli.

“Mae’r llwyddiant a gawsom efo’r cais hwn yn goron ar flynyddoedd o ymdrechion caled a diflino unigolion a sefydliadau i ennill y statws Safle Treftadaeth y Byd.

“Mae’n dangos yn glir fod y dynodiad er lles pawb, a’r hyn sy’n bwysig ydi’n bod ni’n manteisio ar bob help i’n cymunedau fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”

Bydd y prosiect hefyd yn dathlu pwysigrwydd y Gymraeg yn hanes y diwydiant llechi ac yn y trefi a’r pentrefi a dyfodd o’i amgylch. Fel diwydiant bron yn gwbl Gymraeg, hwn oedd yr unig ddiwydiant trwm yn hanes Prydain lle nad oedd y Saesneg yn brif iaith iddo. Gyda hyd at ddau draean eu poblogaeth yn uniaith Gymraeg pan oedd y diwydiant ar ei anterth ar droad yr 20fed ganrif, mae i’r cymunedau a dyfodd o gwmpas y chwarel arwyddocâd pwysig yn hanes y Gymraeg ac yn ei pharhad fel iaith fyw.

“Bydd y prosiect yn darparu adnoddau a gweithgareddau i helpu dysgwyr i archwilio’r Safle Treftadaeth Byd, gan ddysgu am y dreftadaeth a gwella eu sgiliau iaith yr un pryd, meddai Nia Wyn Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd. “Yn yr un modd, bydd sesiynau gyda darparwyr gweithgareddau awyr agored i godi ymwybyddiaeth o enwau, treftadaeth a diwylliant Cymreig a Chymraeg.

“Gan fod cysylltiad pobl ifanc yn ein cymunedau efo’r treftadaeth llechi yn pellhau mae’n bwysig ein bod yn gwneud ymdrech arbennig i godi ymwybyddiaeth ac i ddathlu’r dreftadaeth a’r diwylliant chwarelyddol. Bydd gweithdai mewn ysgolion, cynllun i efeillio ysgolion gyda phartneriaid treftadaeth yn ein helpu i wneud hyn. Bydd ein cynllun Llysgenhadon Llechi Ifanc yn rhoi profiadau a chyfleoedd i bobl ifanc i werthfawrogi hynodrwydd ein ardal a bydd ein gweithgareddau hyfforddiant yn ychwanegu at y cyfleoedd iddynt yn lleol.

“Byddwn hefyd yn cefnogi amcanion Strategaeth Economi Ymweld Gynaliadwy ac yn annog twristiaeth gynaliadwy a chymunedol a fydd yn ceisio annog parch at y dreftadaeth, y dirwedd a’r cymunedau llechi.”

Elfen bwysig arall o genhadaeth y prosiect LleCHI LleNI fydd sicrhau bod pawb o fewn y gymdeithas yn cael eu cynnwys, gydag ymdrech arbennig i gysylltu â grwpiau penodol sydd weithiau’n fwy anodd eu cyrraedd. Mae’r rhain yn cynnwys yr henoed a phobl fregus, pobl ag anableddau, teuluoedd ifanc, pobl LGBTQ+ a phobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd.

“Fel mae enw’r prosiect yn ei awgrymu, mae LleCHI LleNI ar gyfer pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymwneud mewn unrhyw ffordd ag ardaloedd llechi Gwynedd,” meddai Roland Evans, Pennaeth Cynorthwyol Diwylliant, Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd. “Bydd dod â phobl at ei gilydd a grymuso cymunedau yn rhan greiddiol o’i waith, ac mae hyn yn golygu sicrhau bod pawb â llais cryf o’r cychwyn. Rydym yn gobeithio fydd rhywbeth at ddant pawb boed hynny’n gyfle i gymryd rhan mewn ymchwil cymunedol, datblygu eu sgiliau creadigol neu gwneud gwahaniaeth i’n treftadaeth a’n tirwedd drwy sesiynau cadwraeth.”

Er mai ond ar fin cychwyn mae LleCHI LleNI, mae rhaglen helaeth o weithgareddau eisoes wedi cael eu cynllunio a’u trefnu gan gynnwys:

  • Grantiau – bydd tîm grantiau cymunedol Cist Gwynedd yn gweinyddu cynllun i alluogi grwpiau cymunedol i redeg eu prosiectau treftadaeth eu hunain i annog balchder mewn treftadaeth, llesiant a datblygu sgiliau.
  • Arddangosfa deithiol a gwaith dehongli – gweithio mewn partneriaeth i greu arddangosfeydd teithiol mewn mannau cymunedol, gan gynnwys creiriau a straeon y cymunedau.
  • Teithiau tywys a gweithgareddau llesiant i gysylltu gwahanol gynulleidfaoedd â’r Safle Treftadaeth y Byd, ei dirwedd a bioamrywiaeth. Bydd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o enwau, a sesiynau clirio llystyfiant er mwyn annog biomrywiaeth leol i ffynnu.
  • Gweithgareddau diogelu’r Safle – Sesiynau i amlygu pwysigrwydd y safle a’i gadwraeth, gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn arwain gweithgareddau cadwraeth gymunedol i warchod, cofnodi a dehongli gwybodaeth o fynwentydd y Safle Treftadaeth y Byd.
  • Gwaith celf – aelodau’r gymuned leol yn gweithio gyda cherfiwr llechi i ddewis geiriau sy’n cynrychioli treftadaeth y Safle i’w hysgythru ar lechen.
  • Perfformiadau – Dramau a perfformiadau cerddoriaeth yn seiliedig ar ddiwylliant y chwarel.
  • Hanes llafar - Bydd prosiect yn cyfweld â phobl oedd yn gweithio ac yn byw wrth ymyl y chwareli yn ystod yr 1980au ac yn archwilio rôl merched. Bydd enghreifftiau o hiwmor y chwarel yn cael eu casglu..
  • Llysgenhadon ifanc – Bydd plant oed ysgol uwchradd yn dysgu am dreftadaeth llechi, yn datblygu sgiliau, cyfleoedd cymdeithasol, ac yn cael llais yn rheolaeth y Safle Treftadaeth Byd.
  • Sgiliau Traddodiadol – gwaith mewn partneriaeth i ddatblygu sgiliau traddodiadol yn lleol.

 

Wrth gyhoeddi’r dyfarniad, meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn Nghymru:

“Mae gan ein treftadaeth ddiwydiannol wreiddiau dwfn yng Nghymru. Ni fu erioed amser mwy cyffrous i ddathlu ein Tirwedd Llechi Cymreig, ein Safle Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae dyfodol y safle yn datblygu ac yn adeiladu etifeddiaeth i bobl Gwynedd a Chymru.

“Rydym wrth ein bodd yn dyfarnu’r cyllid hwn ac o weld cynlluniau i uno cymunedau yn dod yn fyw, wedi’u galluogi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”

 

Nodiadau a gwybodaeth gefndirol

  • Yn Chwefror 2024 cyflwynodd Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd gais ar ran Partneriaeth Llechi Cymru i Gronfa Treftadaeth y Loteri am £1.7 (cyfanswm gwerth y prosiect: £2filiwn).
  • Mae partneriaeth Llechi Cymru yn cynnwys Cyngor Gwynedd, Llywodraeth Cymru (Cadw), Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Prifysgol Bangor, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac Archeoleg Gwynedd Heneb.
  • Pwrpas y cais oedd cefnogi cymunedau ar draws Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru i elwa o’r dynodiad UNESCO (dyddiad arysgrifio Gorffennaf 2021).
  • Mae chwe ardal graidd y Safle Treftadaeth Byd yn cynnwys: Dyffryn Ogwen, Ardal Chwarel Dinorwig, Dyffryn Nantlle, Cwm Ystradllyn a Chwm Pennant, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog, a phentref Abergynolwyn a Thywyn. Yn ogystal â’r chwareli a’r cymunedau o’u hamgylch yn yr ardaloedd hyn, bydd rhywfaint o weithgarwch y prosiect yn ymestyn dros Wynedd gyfan a rhannau gwledig o orllewin Sir Conwy.

 

Am fwy o wybodaeth, cysyllter â: Lucy Thomas, Rheolwr Prosiect LleCHI LleNI, LucyThomas@gwynedd.llyw.cymru, 07785 469867