Gwynedd yn cael cydnabyddiaeth fel cymuned oed-gyfeillgar

Dyddiad: 09/07/2024
Mae Gwynedd wedi ei chydnabod fel Cymuned Oed Gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), yn dilyn cais llwyddiannus dan arweiniad Cyngor Gwynedd.

Golygai hyn fod y Cyngor, a mwy na 30 o bartneriaid, yn cydweithio i sicrhau fod Gwynedd yn le dymunol, diogel a hygyrch i bobl wrth iddynt heneiddio.

Gwynedd yw’r chweched sir yng Nghymru i gyrraedd y nod yma a chyfrannu tuag at darged Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod pob sir yng Nghymru i fod yn oed gyfeillgar erbyn 2026.

Er mwyn cyrraedd y garreg filltir nodedig hon, cyflwynodd Cyngor Gwynedd gynllun strategol i Sefydliad Iechyd y Byd er mwyn dangos sut bydd yr awdurdod a phartneriaid allweddol – sy’n cynnwys grwpiau gwirfoddol a chymdeithasau tai – yn cydweithio i sicrhau fod gwasanaethau cyhoeddus yn oed-gyfeillgar, yn dathlu llwyddiannau yn y maes a chyn bwysiced yn adnabod beth sydd angen ei ddatblygu er budd pobl wrth iddynt heneiddio.

Bydd Partneriaeth Oed-Gyfeillgar Gwynedd nawr yn bwrw ‘mlaen i ddatblygu cynlluniau ac yn cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yn nhymor yr hydref er mwyn dathlu a rhannu’r gwaith.

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Oedolion, Iechyd a Llesian a Phencampwr Oed-Gyfeillgar Gwynedd:

“Rydw i’n hynod falch o’r cydweithio sydd wedi bod yma yng Ngwynedd rhwng y Cyngor a’r holl bartneriaid i sicrhau bod pobl hŷn yn ganolog i’n gwaith a’n datblygiadau. Byddwn yn parhau i weithio er mwyn sicrhau fod y sir yn le braf, hygyrch a theg i bawb, waeth beth yw eu hoedran.

“Mae dros 1,400 o ddinasoedd, siroedd a chymunedau ar draws 50 o wledydd drwy’r byd yn Oed-Gyfeillgar erbyn hyn a’n gobaith yw y bydd ymuno a’r rhwydwaith byd eang hwn yn gyfle i Wynedd ddysgu a rhannu profiadau gyda chymunedau eraill ar draws y byd.

“Dwi’n pwysleisio mai dim ond dechrau’r daith ydi hyn, gyda llawr o waith o’n blaenau fel partneriaeth er mwyn sicrhau y gall pawb o bob cefndir heneiddio’n dda yma yng Ngwynedd.”

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Hoffwn longyfarch Cyngor Gwynedd am ei gais llwyddiannus i ymuno â Rhwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd fel rhan o’i waith i wneud ei gymunedau’n fwy oed-gyfeillgar.

“Mae hyn yn cadarnhau ymrwymiad Gwynedd i sicrhau bod ei holl drigolion yn cael eu cefnogi i heneiddio’n dda ac yn dangos y cynnydd rydym yn ei wneud yng Nghymru i ychwanegu bywyd at flynyddoedd, nid blynyddoedd at fywyd yn unig.

“Bydd ymuno â’r Rhwydwaith yn darparu cyfleoedd i ddysgu gan ddinasoedd, cymunedau a sefydliadau eraill ledled y byd, yn ogystal â galluogi Gwynedd i dynnu sylw at y gwaith mae’n ei wneud i gefnogi pobl hŷn i heneiddio’n dda ar lwyfan byd-eang.

“Rwy’n falch iawn bod awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi dod yn aelod o’r Rhwydwaith, a bod llawer o rai eraill wrthi’n cwblhau eu ceisiadau eu hunain i ymuno, sy’n dod â ni gam arall yn nes at wireddu ein huchelgais o Gymru sy’n oed-gyfeillgar.” 

Ychwanegodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan: “Rŵan ein bod wedi derbyn y gydnabyddiaeth hon y cam nesaf i ni fydd i fynd allan unwaith eto i gwrdd â phobl Gwynedd er mwyn gwrando a dysgu beth sydd ei angen.

“Rydym yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar draws y sir yn yr hydref er mwyn symud yr agenda yn ei blaen. Bydd y sesiynau yn gyfle i bobl rannu profiadau ond hefyd yn gyfle i’r holl bartneriaid rannu’r hyn sydd ganddynt ar waith.”

Mae’r Cyngor yn datblygu ffyrdd newydd o gysylltu â phobl sydd â diddordeb yn y maes. I gofrestru i dderbyn gwybodaeth am y rhaglen Gwynedd Oed Gyfeillgar, cysylltwch os gwelwch yn dda naill ai ar e-bost: OedGyfeillgar@gwynedd.llyw.cymru neu ysgrifennwch at Gwynedd Oed Gyfeillgar, d/o Rheolwr Cefnogi Iechyd a Llesiant, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH.

Mae mwy o wybodaeth, a chopi o’r cynllun gweithredu, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Gwynedd Oed Gyfeillgar (llyw.cymru)