Arweinydd Cyngor Gwynedd yn camu lawr

Dyddiad: 17/10/2024

 

Mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn heddiw (17 Hydref, 2024) wedi hysbysu Cadeirydd Cyngor Gwynedd o’i benderfyniad i gamu lawr o’i rôl fel Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

 

“Mae wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd i arwain Cyngor Gwynedd dros y saith mlynedd ddiwethaf. Hoffwn ddiolch o galon i fy nghyd aelodau Cabinet, aelodau etholedig o bob grŵp gwleidyddol ac i staff y Cyngor am eu cyfeillgarwch, eu hymrwymiad a’u gwaith diflino dros bobl a chymunedau’r sir.

 

“Mawr yw fy niolch hefyd i arweinyddion cynghorau’r gogledd am eu cefnogaeth i fy ngwaith fel cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a Chydbwyllgor Corfforedig y Gogledd. Rwyf yn talu teyrnged hefyd i fy nghyd aelodau traws bleidiol o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu hymrwymiad i lywodraeth leol.

 

“Edrychaf yn ôl gyda balchder ar y gwaith sydd wedi ei wneud yma yng Nghyngor Gwynedd dros y saith mlynedd diwethaf mewn nifer o feysydd. Yn benodol, rydym wedi arloesi yn ein gwaith i sicrhau cartrefi i bobl leol a rheoli ail gartrefi o fewn y sir; rydym wedi buddsoddi yn sylweddol mewn adeiladau ysgolion; gwelwyd hefyd sicrhau statws UNESCO i’n ardaloedd llechi, sydd wedi arwain at ddenu arian sylweddol fydd yn dod a llewyrch newydd i’r cymunedau hyn.

 

“Mae’n bwysig cofio hefyd y gwaith arwrol wnaed gan fyddin o staff o adrannau ardraws y Cyngor, partneriaid o’r trydydd sector, gwirfoddolwyr a chymunedau i gefnogi pobl Gwynedd drwy’r argyfwng Covid.

 

“Rwyf hefyd yn falch fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd camau cadarn i amddiffyn y bobl mwyaf bregus rhag effeithiau creulon yr argyfwng costau byw tra’n amddiffyn gwasanaethau allweddol rhag y don ar ôl ton o doriadau yn ein cyllidebau.

 

“Rhaid i mi gydnabod fod y cyfnod mwyaf diweddar hwn – a’r wybodaeth erchyll sydd wedi dod i’r amlwg am weithredoedd anfaddeuol y pedoffeil Neil Foden – wedi bod y mwyaf heriol i’r Cyngor fel awdurdod ac i minnau fel Arweinydd.

 

“Mae’n ddrwg calon gen i am y boen mae’r dioddefwyr a’u teuluoedd wedi mynd drwyddo oherwydd y dyn hwn, ac maent yn parhau i fod ar flaen fy meddwl.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Beca Roberts, Cadeirydd Cyngor Gwynedd:

 

“Hoffwn dalu teyrnged i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am arwain y Cyngor ers 2017 ac am fod yn lais cryf a chyson dros gymunedau Cymraeg a gwledig yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

 

“Diolch iddo am ei gyfeillgarwch, ei brofiad a’i arweiniad cadarn dros y blynyddoedd. Rwyf yn siŵr bydd ganddo gyfraniad pellach i’w wneud i waith y Cyngor ac i fywyd cyhoeddus Cymru i’r dyfodol.”

 

Bydd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn hefyd yn rhoi’r gorau i’w rôl fel cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru, is-grŵp Cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a chyd-gadeirydd Fforwm Gwledig Cymru.

 

Meddai Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen Uchelgais Gogledd Cymru:

 

“Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Dyfrig yn ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais dros y bum mlynedd diwethaf. Roedd Dyfrig yn  flaengar wrth arwain y Bartneriaeth i sicrhau buddsoddiad a chefnogi’r gwaith o gyflawni'r Cynllun Twf ar gyfer Gogledd Cymru. Mae ei gyfraniad rhanbarthol wedi bod yn allweddol i economi’r Gogledd. 

 

“Yn fwy diweddar mae Dyfrig hefyd wedi arwain ar y gwaith o sefydlu Cyd-Bwyllgor Corfforedig y Gogledd. Rydym yn ddiolchgar i Dyfrig am ei weledigaeth a chefnogaeth parod dros y blynyddoedd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithasol Llywodraerth Leol Cymru (CLlLC):

 

“Trwy gydol ei gyfnod fel Arweinydd Cyngor Gwynedd, mae Dyfrig wedi bod yn bresenoldeb bywiog o fewn CLlLC ac wedi bod yn ffigwr sylweddol o arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol. Mae wedi bod yn lais cadarn dros fuddiannau cefn gwlad Cymru, y Gymraeg, a'r argyfwng tai a digartrefedd ym mhob rhan o Gymru. Mae ei ddealltwriaeth o gyllid llywodraeth leol heb ei ail, ac mae hyn wedi bod yn gaffaeliad i bob cyngor wrth iddynt barhau i wynebu heriau cyllidebol enfawr.

 

“Ymhlith ei gyd-arweinwyr o fewn y teulu llywodraeth leol, mae Dyfrig yn hynod boblogaidd, yn cael ei barchu a'i edmygu. Ar ran y Gymdeithas, hoffwn estyn fy niolch o galon i Dyfrig am ei gyfraniad diflino dros y blynyddoedd. Bydd ei gyfraniad yn parhau nid yn unig yng Ngwynedd ond ar draws llywodraeth leol Cymru.”

 

Yn unol â chyfansoddiad y Cyngor, bydd aelodau etholedig yn dewis Arweinydd newydd mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn maes o law.

 

Yn y cyfamser, bydd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Nia Jeffreys yn ymgymryd â dyletswyddau’r Arweinydd dros dro hyd nes bydd trefniadau parhaol wedi eu gwneud.