Cau bont droed ym Mhwllheli wedi tân

Dyddiad: 29/10/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi cau bont droed poblogaidd ym Mhwllheli yn dilyn amheuon am losgi bwriadol.

 

Cafodd rhan sylweddol o bompren rhwng Lôn Cob Bach a Phont Solomon ym Mhwllheli ei losgi nos Fercher, 23 Hydref 2024, gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael eu galw. Oherwydd y pryder am ddiogelwch y strwythur mae’r Cyngor wedi cau y llwybr dros dro.

 

Meddai Gerwyn Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae’r bont droed yma ym Mhwllheli yn hynod boblogaidd gyda thrigolion lleol ac yn cynnig cyfle i fwynhau amgylchedd a byd natur tafliad carreg o ganol y dref.

 

“Er fod yna fandaliaeth wedi ei brofi i’r bont dros y blynyddoedd, yn dilyn gwaith atgyweirio diweddar, mae yna ddefnydd da wedi ei weld ohoni.

 

“Mae’n bryderus iawn felly fod y strwythur wedi gorfod ei gau dros-dro ar ôl y tân yma, ac mae’n loes calon gweld y difrod sydd wedi ei achosi.

 

“Yn ogystal â’r anhwylustod fod rhaid cau y bont dros dro, mi fydd yna gostau sylweddol i’r Cyngor er mwyn gallu atgyweirio’r strwythur – mewn cyfnod lle mae cyllid yn brin, mae hyn yn gost di-angen.

 

“Mae’n siomedig bod ymddygiad lleiafrif bach iawn yn difetha mwynhad pobl o’r bompren. Rydym yn erfyn ar y rhai sy’n gyfrifol i barchu eiddo cyhoeddus ac i feddwl am effaith eu hymddygiad ar y gymuned leol, ac i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y mater i gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru.”

 

Mae’r digwyddiad wedi ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru. Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad yma, dylid cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu www.northwales.police.uk gan nodi rhif digwyddiad Q160764.