Cyfle i drigolion Gwynedd ddweud eu dweud am dwristiaeth

Dyddiad: 22/10/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn dymuno clywed a deall barn cymunedau lleol am dwristiaeth.

Mae’r arolwg hwn yn agored i holl drigolion Gwynedd ac yn gyfle iddynt fynegi sylwadau am sawl agwedd o dwristiaeth, gan gynnwys unrhyw ddylanwad cadarnhaol neu negyddol mae cymunedau wedi eu profi yn gysylltiedig â chyflogaeth, ansawdd bywyd, yr amgylchedd, treftadaeth a diwylliant Cymreig.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet dros Economi a Chymuned:

“Rydym yn awyddus i ddysgu mwy am yr effaith y mae twristiaeth yn ei gael ar ein cymunedau yma yng Ngwynedd a beth yw’r manteision a’r anfanteision sy’n deillio ohono.

“Mae’r arolwg hwn yn amserol gan fod blwyddyn wedi pasio ers i ni lansio Cynllun Gwynedd ac Eryri 2035, sef y Cynllun Strategol ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn yr ardal. Bwriad y cynllun yw cynorthwyo’r ardal i gefnogi twristiaeth gynaliadwy i’r dyfodol.

“Dyma gyfle hefyd i fynegi barn ar effeithiau twristiaeth ers dynodi Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2021.

“Bydd canfyddiadau’r arolwg yn helpu ni i lywio polisi twristiaeth i’r dyfodol, ac ein galluogi i ymateb yn y ffordd orau i gyfarch anghenion lleol ein cymunedau.

“Os oes gennych farn ar y mater, byddwn yn eich annog i gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur.”

Caiff yr arolwg ei reoli'n gyfan gwbl gan Gyngor Gwynedd a'i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae modd cymryd rhan yn yr arolwg drwy fynd i wefan Cyngor Gwynedd: Arolwg Twristiaeth - Trigolion Gwynedd (llyw.cymru)

Bydd yr arolwg yn dod i ben ar 15 Tachwedd, 2024.

Mae copïau papur ar gael yn eich llyfrgell leol, neu cysylltwch gyda twristiaeth@gwynedd.llyw.cymru os am fformat wahanol.