Cyfle i fusnesau Gwynedd i ddweud eu dweud

Dyddiad: 21/10/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i glywed barn y gymuned fusnes leol er mwyn gallu teilwra gwasanaethau a chefnogaeth i’r dyfodol.

 

Mae cyfle i berchnogion busnes o fewn y sir i rannu eu barn drwy holiadur byr a bydd canlyniadau’r arolwg yn rhoi trosolwg o'r hinsawdd fusnes gyfredol ac yn rhoi gwell dealltwriaeth o anghenion busnesau’r sir i’r Cyngor.

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adran Economi a Chymuned: “Rydym am glywed gan fusnesau ar draws pob sector am yr heriau rydych chi'n eu hwynebu, y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch a'ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

“Dwi’n annog rheini sy’n rhedeg busnesau o bob maint ac ym mhob sector i ddweud eu dweud drwy’r holiadur hwylus.

 

“Mae busnesau yn rhan allweddol o’n economi leol ac er mwyn gallu parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth briodol, mae’n hanfodol ein bod yn cael clywed am y tueddiadau a’r heriau lleol. Bydd canlyniadau’r arolwg hwn yn ein cynorthwyo y fawr tuag at hyn.”

 

I gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/ArolwgBusnes

 

Os na allwch roi eich barn ar-lein, mae copi papur o'r holiadur ac amlen bost am ddim i'w dychwelyd atom ar gael:

  • yn llyfrgelloedd Gwynedd 
  • yn Siop Gwynedd – Caernarfon, Pwllheli neu Dolgellau 
  • drwy ffonio 01286 679505 i dderbyn copi drwy'r post

 

Bydd yr arolwg yn cau nos Lun, 25 Tachwedd.