Cyngor Gwynedd yn cefnogi Wythnos Ailgylchu 14-20 Hydref 2024
Dyddiad: 15/10/2024
Mae Cyngor Gwynedd yn cefnogi ymgyrch genedlaethol i helpu Cymru i gyrraedd Rhif 1 yn y byd am ailgylchu.
Mae Cymru’n gwneud cynnydd yn barod – gan ddringo o’r trydydd safle i’r ail yn ddiweddar, dim ond ychydig y tu ôl i Awstria. Ond gallwn wneud yn well fyth, yn enwedig wrth daclo gwastraff bwyd.
Er bod y rhan fwyaf ohonom yn gwybod na ddylai bwyd fyth fynd i’r bin sbwriel, y gwir ydi bod chwarter cynnwys biniau gwastraff cyffredinol cartrefi Cymru yn wastraff bwyd. Mae hynny’n ddigon i lenwi 3,300 o fysiau deulawr bob blwyddyn. Yn syfrdanol, gellid bod wedi bwyta mwy nag 80% o’r bwyd hwn, gan gostio £89 y mis i’r aelwyd gyffredin o 4 person.
Achub bwyd rhag y bin sbwriel yw’r peth pennaf y gallwn ei wneud i gael Cymru i Rif 1. Dilynwch y cyngor syml hwn i ddarganfod beth allwch ei wneud, yna gwnewch yr addewid am gyfle i ennill gwobrau. Fe wnewch chi hefyd arbed amser ac arian i chi eich hun, gan helpu i greu ynni adnewyddadwy. Rydych chi ar eich ennill bob ffordd!
Byddwch yn greadigol gyda’r bwyd sydd dros ben gennych
Weithiau, gall bywyd fod yn brysur, ac mae’n rhaid i ni wneud ein gorau gyda’r bwyd sydd ar gael i osgoi ei wastraffu. Beth am ei weld fel her hwyliog! Defnyddiwch y tameidiau olaf yn eich oergell i roi hwb sydyn a chreadigol i’ch prydau bwyd.
Gyda thymor pwmpenni yn ei anterth, beth am droi’r darnau bwytadwy hynny’n ffriterau, cyri, neu hyd yn oed smwddi, yn hytrach na gadael iddyn nhw fynd yn wastraff? Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio bwyd cyn iddo ddifetha yn rhoi boddhad, yn flasus, ac yn garedig i’ch waled a’r blaned.
Os na ellir ei fwyta fo, ailgylcha fo
Peidiwch anghofio’r darnau hynny na allwch chi eu bwyta – fel crwyn bananas, plisg wyau, a gwaddodion coffi – dylid eu hailgylchu bob amser. Oherwydd pan gaiff gwastraff bwyd ei ailgylchu, caiff ei droi’n ynni adnewyddadwy.
Yng Ngwynedd, mae ailgylchu gwastraff bwyd yn digwydd o safle GwyriAD ger Clynnog, gan greu ynni glanach a gwyrddach. Gallwch hefyd ailgylchu gwastraff bwyd pan fyddwch chi allan o amgylch y lle – cadwch olwg allan am finiau gwastraff bwyd pan fyddwch chi allan o’r tŷ, neu fel arall gallwch ailgylchu bwyd ym mhob un o ganolfannau ailgylchu Cyngor Gwynedd.
P’un ai gartref, neu allan yn eich cymuned ydych chi, mae’n amser bod yn ddoeth gyda gwastraff bwyd. Bydd staff Cyngor Gwynedd ar gael am sgwrs yn Siop Gwynedd, Caernarfon dydd Gwener, 18 Hydref ac yn Siop Gwynedd, Dolgellau ar 23 Hydref, rhwng 10.00am a 3.00pm felly bachwch ar y cyfle i ddysgu mwy.
Gwnewch addewid i helpu Cymru gyrraedd Rhif 1, a gallech ennill gwyliau bythgofiadwy i chwech o bobl yn Bluestone neu fynediad am ddim i rai o atyniadau pennaf Cymru, fel Fferm Folly Farm, Zip World, y Sŵ Fynydd Gymreig, neu Docyn Crwydro Cadw!
Ewch draw i Cymru yn Ailgylchu i gymryd rhan.