Cyngor Gwynedd yn ehangu Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag i gefnogi mwy o brynwyr tai lleol

Dyddiad: 02/10/2024
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi newidiadau sylweddol i’w Gynllun Grantiau Cartrefi Gwag i gefnogi mwy o drigolion lleol i droi eiddo gwag yn gartrefi o safon. Daw’r newidiadau fel rhan o ymdrechion parhaus y Cyngor i fynd i’r afael â’r nifer uchel o dai gwag yn y sir a darparu cefnogaeth i bobl Gwynedd fyw’n lleol. 

Bydd y grant – a oedd ar gael yn flaenorol i brynwyr tro cyntaf yn unig – yn awr yn agored i bob prynwr cymwys. Yn ogystal, cynyddwyd uchafswm y grant o £15,000 i £20,000, i adlewyrchu cynnydd yng nghostau nwyddau a gwasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf.

Bwriad y cynllun, sydd wedi bod yn weithredol ers 2021, yw dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd trwy gynnig grant i adnewyddu cartrefi i safon byw dderbyniol. Ariennir y cynllun gwerth £4 miliwn gan gyllid o Bremiwm Treth y Cyngor ar Ail Gartrefi, ac mae eisoes wedi helpu bron i 170 o drigolion trwy Wynedd. 

Nid dyma’r addasiad cyntaf i’r cynllun grantiau, gyda’r Cyngor yn ymestyn y meini prawf ym mis Awst 2023 i gynnwys tai segur a fu’n arfer bod yn ail gartrefi –  hynny yw eiddo ble roedd disgwyliad fod y perchennog yn talu Premiwm Treth Cyngor – gan ehangu’n bellach yr opsiynau sydd ar gael i bobl leol brynu cartref. Dyma un o 33 prosiect yng Nghynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor i sicrhau fod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Mae’r Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag yn un o nifer o gynlluniau sydd ar gael i helpu dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys gostyngiadau TAW ar adnewyddu eiddo sydd wedi bod yn segur, benthyciadau gan Lywodraeth Cymru, a Chynllun Lesu Cymru, sy'n caniatáu i landlordiaid lesu eiddo gwag i'r Cyngor am incwm gwarantedig. 

Dywedodd Gethin Jones, derbynnydd Grant Cartrefi Gwag Gwynedd, sydd wedi prynu cartref yn Chwilog ger Pwllheli:

“’Dan ni’n edrych ymlaen at setlo lawr yn ein cartref yma yn Chwilog, a chychwyn pennod newydd fel teulu efo babi ar y ffordd. Mae’r Grant Cartrefi Gwag wedi helpu ni i gwblhau atgyweiriadau hanfodol i’r tŷ, fel gosod ffenestri newydd, ailadeiladu’r simnai a gwaith trydanol, yn llawer cyflymach na fysa ni wedi gallu gwneud ar ben ein hunain, a chael y lle yn barod i ni fel teulu mewn da bryd. Heb y grant, fysa ni ddim lle ydan ni rŵan, mae hynny’n saff! Mae’n golygu ein bod ni’n gallu cario mlaen i weithio ar y tŷ a’i wneud yn gartref am flynyddoedd i ddod.

“Roedd y tŷ wedi bod yn wag ers dros flwyddyn cyn i ni symud i mewn, ac roedd y cyn-berchennog, dynes leol, wir eisiau ei werthu i bobl leol. Gafodd y ddau ohonom ni ein magu yn agos i Chwilog ac mae'n golygu lot i ni i allu aros yn agos i’n teuluoedd a magu ein plentyn yn yr ardal ‘dan ni’n nabod a charu.”

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: 

“Mae bron i 5,400 o dai gwag yn y sir ar hyn o bryd, gan gynnwys ail gartrefi, sy’n wrthgyferbyniad llwyr i'r ffaith bod bron i 900 o bobl wedi cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n gwbl anfoesol bod gymaint o gartrefi Gwynedd yn segur pan fo’r galw am dai mor uchel ac mae'r ymyrraeth yma, ynghyd â mesurau eraill yng Nghynllun Gweithredu Tai'r Cyngor, yn hollbwysig i ddiogelu dyfodol ein cymunedau.

“Rydym wedi gwrando ar bobl Gwynedd – mae mwy a mwy o bobl angen ein cefnogaeth, boed hynny’n brynwyr tro cyntaf neu deulu sydd mewn angen dybryd am dŷ mwy. Mae prisiau hefyd wedi codi ers i ni lansio’r cynllun yn 2021, ac rydym wedi addasu i adlewyrchu’r realiti yma trwy gynyddu’r grant sy’n cael ei gynnig. 

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sy’n edrych i brynu tŷ gwag neu cyn ail gartref i edrych ar wefan y Cyngor am fwy o fanylion, neu gysylltu â thîm Tai Gwag y Cyngor am sgwrs.”

Am fwy o wybodaeth am y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Gwynedd a chynlluniau tai eraill, ewch i wefan Cyngor Gwynedd: Tai gwag (llyw.cymru)