Cynllun Asedau Cyngor Gwynedd i fuddsoddi yn Hafan Pwllheli

Dyddiad: 07/10/2024

Bydd Cyngor Gwynedd yn buddsoddi mwy na £5 miliwn dros y ddeng mlynedd nesaf er mwyn galluogi darpariaeth marina Hafan Pwllheli i barhau i ddod â budd i’r economi leol.

Mae Hafan a Harbwr Pwllheli yn denu miloedd o bunnoedd i’r economi leol yn flynyddol ac yn cynnal dwsinau o swyddi gwerth uchel ym Mhwllheli a’r ardal ehangach.

Yn ei gyfarfod ar 11 Gorffennaf 2024, cytunodd aelodau o Gyngor Gwynedd i fabwysiadu Cynllun Asedau 2024/25-2034/35, sy’n rhoi’r golau gwyrdd i wariant cyfalaf fel gall y Cyngor reoli ei asedau hanfodol – sy’n cynnwys Hafan Pwllheli ymysg nifer o brosiectau eraill – ac osgoi risg o fethu darparu gwasanaethau. Daw grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwariant ar asedau.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:

“Mae Hafan Pwllheli yn dod a mwy na £3 miliwn o fudd economaidd i ardal Pwllheli yn flynyddol ac yn cefnogi mwy na 50 o swyddi llawn amser, gwerth uchel. Heb amheuaeth, mae gwario i gadw’r ddarpariaeth i fyny i’r safon ddisgwyliedig yn werth am arian, ac yn arbennig o bwysig i’r economi leol yn ardal Dwyfor.

“Gyda’r nifer o gwsmeriaid blynyddol wedi cynyddu ers 2019 mae’r dyfodol yn argoeli’n dda ar gyfer yr Hafan. Yn wir, mae’r staff y Hafan yn dweud wrthyf fod rhestr aros o fwy na 200 ar gyfer lle yn y marina ei hun ac mae 94% o angorfeydd yr Harbwr Allanol yn llawn.”

Mae ceg yr harbwr, y sianel a’r harbwr mewnol ym Mhwllheli yn siltio a llenwi a llaid o ganlyniad i brosesau naturiol. Fel rhan o’r cynllun, bwriad y Cyngor yw clustnodi cyfran o’r pecyn £5.4 miliwn ar garthu'r harbwr. Heb wneud y gwaith hwn mae risg na fydd gan gychod hwylio mordwyo fynediad diogel mewn ac allan o’r Harbwr dros y pump i ddeng mlynedd nesaf oherwydd cynnydd yn y gwaddod.

Mae cyfran arall o’r arian yn cael ei glustnodi ar gyfer adnewyddu’r pontŵns sydd wedi cyrraedd diwedd eu hoes.. Mae enghreifftiau wedi bod o marinas mewn rhannau eraill o’r wlad ble mae cychod wedi eu difrodi yn sylweddol yn ystod stormydd oherwydd diffygion mewn adnoddau. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys: “Mae prif strwythurau'r Hafan, sef y pontŵns a’r stanciau, wedi pasio oes eu dyluniad a heb y buddsoddiad hwn i gynnal safonau dros y ddeng mlynedd nesaf,  mae risg na fyddwn yn cadw i fyny efo’r farchnad a byddai cwsmeriaid yn gadael.

“Byddai hyn yn ergyd drom i economi ardal Pwllheli gyda swyddi sy’n dibynnu ar y diwydiant morwrol a’r diwydiant ymweld yn ehangach mewn perygl. 

“Y gwirionedd hefyd yw bod Cyngor Gwynedd yn gwneud elw o’r marina - yn ystod 2023/24 codwyd £700,000. Mae creu incwm drwy ffioedd yn rhan allweddol o’n strategaeth ariannol, ac yn gwarchod gwasanaethau hanfodol mae pobl Gwynedd yn dibynnu arnynt rhag cael eu torri fwy byth.

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd harbyrau ar hyd arfordir Gwynedd, sydd yn bwysig i gymunedau lleol ac economi’r ardal”.

Mae’r buddsoddiad hwn yn cydredeg â strategaeth hirdymor sydd wedi ei pharatoi yn ddiweddar. Bu ymgynghorwyr yn cydgysylltu gyda rhanddeiliaid lleol i adfywio ardal y Marina, yr Harbwr a Chei’r Gogledd, ac yn dilyn y cyhoeddiad bydd ffrydiau gwaith a chyfleoedd masnachol yn cael eu gweithio ar er mwyn gwireddu elfennau o’r strategaeth.