Dathlu mis o weithgareddau Gwynedd Oed Gyfeillgar
Dyddiad: 30/10/2024
Mae croeso cynnes i aelodau’r cyhoedd i ddigwyddiad ‘Byw’n Dda, Byw’n Iach’ Cyngor Gwynedd, sy’n benllanw cyfres o ddigwyddiadau difyr drwy’r sir dros yr wythnosau diweddar gyda’r bwriad o helpu pobl i heneiddio’n dda.
Bwriad y sesiwn yw rhoi cyfle i bobl hŷn roi cynnig ar weithgareddau newydd, creu cysylltiadau cymdeithasol a chanfod pa gefnogaeth sydd ar gael.
Yn ystod y sesiwn – a gynhelir yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon, Caernarfon ar 1 Tachwedd – bydd Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, Rhian Bowen-Davies, yn ateb cwestiynau’r mynychwyr ac yn egluro ei blaenoriaethau dros y flwyddyn sydd i ddod.
Trefnir y digwyddiad gan Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y Cyngor fel rhan o weithgarwch sy’n cael ei gynnal yn sgil cydnabod sir Gwynedd fel Cymuned Oed Gyfeillgar gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ‘nol yn Ebrill 2024.
Golygai’r statws rhyngwladol hwn fod Cyngor Gwynedd, a mwy na 30 o bartneriaid, yn cydweithio i sicrhau fod Gwynedd yn le dymunol, diogel a hygyrch i bobl wrth iddynt heneiddio. Fel rhan o’r gwaith i ddathlu a chydnabod cyfraniad pobl hŷn i’n cymunedau, trefnwyd cyfres o ddigwyddiadau i bontio'r cenedlaethau, adeiladu cymunedau gwydn a lleihau unigedd ar draws y sir drwy gydol yr hydref, gan gychwyn gyda diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn ar 1 Hydref.
Mae rhai o’r digwyddiadau llwyddiannus a gynhaliwyd dros yr wythnosau diweddar yn cynnwys:
- Ar ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn rhannwyd straeon am rai o bobl hŷn Gwynedd ar gyfryngau cymdeithasol, er enghraifft cafwyd lluniau o drigolion Plas Maesincla, un o gartrefi preswyl Cyngor Gwynedd, yn rhannu rhai o’u cyfrinachu heneiddio’n dda; a dathlu arwyr lleol gyda Dementia Actif Gwynedd.
- Cynhaliwyd y sesiwn ‘Byw’n Dda, Byw’n Iach’ cyntaf ym Mhorthmadog, pryd daeth dwsinau o bobl hŷn Gwynedd at ei gilydd er mwyn clywed gan sefydliadu am y cymorth sydd ar gael, yn ogystal â mwynhau’r cyfle i roi cynnig ar weithgareddau, i sgwrsio a chymdeithasu.
- Cafwyd ymweliad gan Dawn Bowden, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, i Ganolfan Noddfa, Caernarfon er mwyn iddi brofi sut mae rhai o drigolion Gwynedd yn cael eu cefnogi wrth iddynt heneiddio, a sut mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaethau i gyrraedd y nod oed-gyfeillgar.
- Cynhaliwyd sesiwn pontio’r cenedlaethau yn Awel y Coleg, Y Bala ble roedd cyfle i bobl o bob oed gymysgu a hel storïau drwy gymharu heddiw a ddoe.
Dywedodd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a Phencampwr Oed-Gyfeillgar Gwynedd:
“Rydym yn ymfalchïo yn yr holl waith pontio’r cenedlaethau sy’n digwydd ar draws Gwynedd. Un o’n prif flaenoriaethau ydi gweithio a chefnogi partneriaid i fedru cynnig cyfleoedd sy’n dod a phobl o bob oed at ei gilydd er mwyn adeiladu cymunedau cryfach, mwy gwydn ac sydd dros amser yn fwy oed gyfeillgar.
“Cychwyn y daith oedd derbyn y cydnabyddiaeth Oed Gyfeillgar yn ôl ym Mis Ebrill. Mae’r Cyngor yn cydweithio gyda phartneriaid a phobl hŷn Gwynedd i godi ymwybyddiaeth, i adeiladu ar y momentwm a chreu Gwynedd yn le braf i heneiddio ynddi.
“Byddwn yn annog pobl hŷn sydd eisiau gwybod mwy am y pethau sydd ar gael iddynt, a sut mae modd iddynt barhau i fwynhau y pethau sydd yn bwysig iddynt, i ddod i’r sesiwn yn y ganolfan hamdden. Bydd mwy o weithgareddau yn cael eu trefnu, felly byddwn yn gofyn i bobl gadw llygaid am fwy o fanylion.”
Cynhelir y sesiwn ‘Byw’n Dda, Byw’n Iach’ yng Nghanolfan Byw’n Iach Arfon, Caernarfon ar y 1 Tachwedd rhwng 10am-2pm. Mae croeso cynnes i bawb alw mewn.
Mae’r Cyngor yn datblygu ffyrdd newydd o gysylltu â phobl sydd â diddordeb yn y maes. I gofrestru i dderbyn gwybodaeth am y rhaglen Gwynedd Oed Gyfeillgar, cysylltwch os gwelwch yn dda naill ai ar e-bost: OedGyfeillgar@gwynedd.llyw.cymru neu ysgrifennwch at Gwynedd Oed Gyfeillgar, d/o Rheolwr Cefnogi Iechyd a Llesiant, Pencadlys Cyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon LL55 1SH. Mae mwy o wybodaeth, a chopi o’r cynllun gweithredu, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Gwynedd Oed Gyfeillgar (llyw.cymru)