Gwaith yn dechrau ar gartref newydd i Ysgol Ein Harglwyddes Bangor

Dyddiad: 21/10/2024

Cafodd disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor gyfle i fod yn rhan o seremoni fer i nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar eu hysgol newydd ar hen safle Glanadda yn y ddinas.

Roedd y digwyddiad yn gyfle i nifer o sefydliadau sy’n gysylltiedig a’r ysgol ddod at ei gilydd i ddathlu fod gwaith yn dechrau ar y prosiect gwerth dros £8 miliwn i godi ysgol newydd sbon, gyda adnoddau modern fydd yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd addysgiadol i’r plant.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnig addysg Gatholig i blant Bangor a’r cylch.

Mae buddion amgylcheddol mawr i’r cynllun – drwy godi’r ysgol ar safle tir llwyd, ble safai’r hen Ysgol Glanadda erstalwm, mae arbedion amlwg i’r amgylchedd. Bydd yr ysgol newydd hefyd yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg wyrdd.

Roedd cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n allweddol i gymuned Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor yn bresennol yn y seremoni, gan gynnwys – yr Esgob Peter Brignall, Esgobaeth Gatholig Wrecsam; Pennaeth a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Ein Harglwyddes; y Cynghorwyr Beca Brown a Gareth A Roberts, aelodau o Gyngor Gwynedd; a’r Cynghorydd Gareth Parry, Maer Dinas Bangor.

Ymunwyd â hwy gan swyddogion o Adran Addysg ac Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd a chwmni Read Construction, sydd wedi ennill y gytundeb i wneud y gwaith adeiladu, er mwyn egluro mwy am y prosiect a beth fydd y buddion i’r disgyblion a’r gymuned ehangach.

Bydd £7.7 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn yr ysgol ei hun, gyda 85% o’r gyllideb yn dod o Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, a’r 15% sy’n weddill gan Esgobaeth Gatholig Wrecsam.

Yn ychwanegol i’r ddarpariaeth ysgol, sicrhawyd £700,000 o Raglen Cyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru er mwyn cynnwys Uned Blynyddoedd Cynnar ar safle’r ysgol newydd.

Dywedodd Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Adran Addysg Cyngor Gwynedd:

“Rwy’n falch iawn o weld y gwaith ar yr ysgol newydd yn dechrau. Bydd yr Ysgol Ein Harglwyddes ar ei newydd wedd yn darparu cyfleusterau modern i blant Bangor a’r cyffiniau, ac yn caniatáu iddynt gyrraedd eu llawn botensial.

“Rwyf yn edrych ymlaen i weld y plant yn mwynhau eu hysgol newydd, fydd yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth gyda mynediad i ofod allanol, neuadd, cegin ac ystafell amlbwrpas. Bydd gan yr ardal allanol arwynebedd caled ar gyfer chwarae, ardal gemau aml-ddefnydd a chae chwarae gwair.

“Er mor gartrefol a hanesyddol yw’r hen adeilad, rwy’n hyderus bydd y disgyblion, eu teuluoedd a’r staff dysgu wrth ei bodd gyda’r ysgol newydd.”

Dywedodd y Gwir Barchedig Peter M. Brignall, Esgob Gatholig Wrecsam:

“Rwyf yn hynod falch ein bod heddiw yn gallu nodi carreg filltir arwyddocaol ar ein taith o adeiladu Ysgol Gynradd Gatholig newydd ym Mangor. Mae hyn wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd lawer, a bydd gan Ysgol Ein Harglwyddes yr adeilad newydd yr ydym wedi dyheu amdano.

“Mae partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Esgobaeth Wrecsam a Chyngor Gwynedd yn rhoi  bywyd newydd i hen safle Ysgol Glanadda ac yn rhyddhau Ysgol Ein Harglwyddes o gyfyngiadau ei hadeilad oes Fictoria, sydd â mynediad gwael a chyfleusterau cyfyngedig.

“Rwy'n edrych ymlaen at y diwrnod y bydd yr ysgol newydd yn agor ei drysau ac yn darparu amgylchedd dysgu a chyfleoedd addysgol yr 21ain Ganrif, a hynny dan do a thu allan.”

Dywedodd Mrs Aimee Jones, Pennaeth Ysgol Ein Harglwyddes:

“Ar ran holl staff a chyn benaethiaid Ysgol Ein Harglwyddes, dymunaf rannu fy llawenydd wrth i ni nodi dechrau gwaith adeiladu ar ein hysgol newydd.

“Mae staff a llywodraethwyr cyfredol a blaenorol, ynghyd â llawer o ddisgyblion a rhieni sydd wedi dod trwy glwydi’r ysgol dros y blynyddoedd, yn edrych yn ôl gyda atgofion melys am eu hamser yn ein hadeilad presennol.

“Wedi dweud hynny, rydym wedi ein cyffroi o weld gwaith adeiladu yn dechrau ac edrychwn ymlaen ar gyfer y bennod newydd hon o ddarparu cenedlaethau’r dyfodol gyda’r addysg Gatholig orau, mewn amgylchedd fodern wedi ei adeiladu i’r pwrpas. Rydym wedi bod yn dyheu am hyn am flynyddoedd lawer.

“Dymunwn ddiolch i Saer y penseiri am eu cydweithrediad ac am ganiatáu ein mewnbwn i’r dyluniadau cychwynnol. Rydym yn benderfynol o ddod a’n hanes cryf a’n ethos gynhwysol, ofalgar a theuluol gyda ni pan rydym yn mudo i’r safle newydd.” 

Ychwanegodd Alex Read, Cyfarwyddwr Read Construction: “Mae Read wedi eu cyffroi o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i ddarparu’r ysgol newydd hon, fydd wedi ei hadeiladu i’r pwrpas, ac a fydd yn gwella’r amgylchedd ddysgu ar gyfer disgyblion Ysgol Ein Harglwyddes.

“Mae cynaladwyedd yn greiddiol i’r adnodd 21ain Ganrif hon, ac mae wedi ei dylunio yn unol â gofynion Sero Net Llywodraeth Cymru. Drwy gydol y gwaith adeiladu, byddwn yn cydweithio â’r ysgol a’r gymuned er mwyn sicrhau bydd y cynllun yn dod a buddion ychwanegol i’r ardal leol.”

Y gobaith yw bydd y gwaith ar yr Ysgol Ein Harglwyddes newydd wedi ei gwblhau ar gyfer agor tymor yr haf 2026.