Seremoni torri y dywarchen yn nodi dechrau datblygiad tai cyntaf Cyngor Gwynedd drwy gynllun Tŷ Gwynedd
Dyddiad: 22/10/2024
Cynhaliwyd seremoni torri'r dywarchen yn ddiweddar ar gyfer datblygiad Tŷ Gwynedd y Cyngor i ddathlu dechrau’r gwaith o adeiladu tai fforddiadwy i bobl leol yn Llanberis.
Dros y misoedd nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn adeiladu eu tai cyntaf ers dros 30 mlynedd ar y safle, er mwyn darparu mwy o dai o safon uchel i bobl Gwynedd. Mae’r cartrefi newydd yn rhan o brosiect datblygu tai uchelgeisiol Tŷ Gwynedd y Cyngor, gyda’r nod o adeiladu 90 o gartrefi ledled y Sir.
Rhoddodd cynrychiolwyr o Gyngor Gwynedd, OBR Construction, Saer Architects, a disgyblion o Ysgol Dolbadarn y rhawiau cyntaf yn y ddaear i nodi dechrau swyddogol y prosiect hwn.
Yn Llanberis bydd tri tŷ yn cael eu codi, sef dau dŷ pâr gyda dwy ystafell wely; ac un tŷ ar wahân gyda thair ystafell wely. Bwriad y tai yw diwallu anghenion pobl leol, yn enwedig rheini sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Bydd y tai hyn yn cael eu hadeiladu yn dilyn egwyddorion penodol, sef eu bod yn fforddiadwy, addasadwy a chynaliadwy. Yn ogystal, bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gyda ffocws ar effeithlonrwydd ynni, gan ddefnyddio technolegau gwyrdd a dyluniadau arloesol i gadw’r tai yn gynnes a’r biliau ynni yn isel. Bydd llechi lleol Cymreig yn cael eu defnyddio ar y toeau.
Mae’r prosiect hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach Cyngor Gwynedd, sydd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r prinder tai yn y sir drwy ddarparu dros 1,000 o dai fforddiadwy erbyn 2027.
Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn cwblhau o gwmpas haf 2025 a bydd y tai yn cael eu dyrannu drwy Gofrestr Cartrefi Fforddiadwy Tai Teg. I weld y meini prawf cymhwysedd ac i gofrestru diddordeb, ewch i wefan Tai Teg: https://taiteg.org.uk/cy/
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:
“Rydym yng nghanol argyfwng tai, ac mae’n hanfodol ein bod yn codi mwy o dai i fynd i’r afael â’r prinder dybryd o gartrefi fforddiadwy yn ein cymunedau.
“Mae Tŷ Gwynedd yn un o’r prosiectau allweddol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai, ac mae’n foment o falchder personol mawr gweld y weledigaeth yma’n dechrau cymryd siâp ar ôl blynyddoedd o gynllunio trylwyr gan swyddogion y Cyngor. Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â ni yn y digwyddiad i ddathlu’r garreg filltir arwyddocaol hon yn Llanberis, yn enwedig plant Ysgol Dolbadarn, sy’n cynrychioli dyfodol ein cymunedau.
“Mae'n bwysig pwysleisio mai dim ond un o blith nifer o gynlluniau y mae'r Cyngor yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r argyfwng yw hwn. Mae cynlluniau eraill yn cynnwys darparu grantiau a benthyciadau i helpu pobl Gwynedd i brynu ac adnewyddu tai, prynu eiddo i'w rentu i bobl leol am bris fforddiadwy a sawl cynllun i daclo digartrefedd yng Ngwynedd. Mae’r prosiectau yma i gyd yn hollbwysig i sicrhau ein bod yn darparu'r hawl dynol sylfaenol o gartrefi diogel, fforddiadwy ac addas i bobl y sir.”