Taclo problemau baw cŵn yng Ngwynedd
Dyddiad: 30/10/2024
Mae Cyngor Gwynedd am atgoffa y lleiafrif anghyfrifol o berchnogion cŵn mai eu cyfrifoldeb nhw ydi codi baw eu cŵn, ac mae peidio gwneud hynny yn drosedd amgylcheddol sy’n cael effaith ar fannau cyhoeddus.
Gall berchnogion sydd ddim yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid mewn ffordd gyfrifol – er enghraifft ei godi a’i roi mewn biniau pwrpasol baw cŵn, biniau stryd cyhoeddus neu eu bin olwyn gwyrdd eu hunain gartref – dderbyn cosb ariannol neu hyd yn oed cael eu herlyn gan y llysoedd.
Mewn achosion prin, mae dod i gyswllt â baw ci yn gallu arwain at salwch difrifol fel toxocariasis sy’n gallu achosi trafferthion anadlu a dallineb.
Dywedodd Steffan Jones Pennaeth Priffyrdd, Peirianneg ac YGC: “Mae cŵn yn baeddu ar dir cyhoeddus yn gŵyn rydym yn ei dderbyn yn rheolaidd, ac yn anffodus mae’r broblem yn waeth yn y gaeaf.
“Yma yng Ngwynedd mae gennym gymaint o lefydd braf i fynd am dro, ond mae’n brofiad annymunol iawn sylweddoli eich bod wedi sefyll mewn baw ci ar eich taith, a’i gario i’r car, neu’r cartref. Rydym wedi clywed hanesion gan deuluoedd sydd wedi canfod baw ci ar olwynion coets babi neu ar olwynion sgwters plant.
“Dydi’r ffaith ei bod yn dywyll neu’n lawog ddim yn esgus dros beidio stopio a phigo’r baw i fyny. Helpwch ni i ledaenu’r neges am bwysigrwydd perchnogaeth cŵn cyfrifol a cydwybodol yr hydref a’r gaeaf hwn.”
Mae mwy o gŵn i’w gweld yn ein cymunedau, ac mae’r Cyngor yn ddiolchgar i’r rhan helaethaf o berchnogion sy’n cymryd eu cyfrifoldeb i gadw eu cymuned yn lân a thaclus o ddifri drwy gario bagiau i godi baw bob tro maent yn mynd am dro. Yn anffodus, mae lleiafrif anghyfrifol yn parhau i achosi problemau i bawb arall gan boeni dim am eu cymuned nac am yr effaith y mae eu hesgeulustod yn ei gael ar iechyd a lles pobl eraill.
Mae’r Cyngor yn darparu bagiau yn rhad ac am ddim i drigolion, ac mae cyflenwad ar gael o’r tair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli) ac o bob Llyfrgell yn y sir.
Yng Ngwynedd mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) yn bodoli sy’n golygu ei bod yn drosedd i fynd a chŵn i ardaloedd chwarae penodedig ar gyfer plant, tir ysgol, caeau chwaraeon a rhai traethau (Ebrill-Medi). Mae gorchmynion rheoli cŵn wedi bodoli ers 2013 ac erbyn hyn wedi ei ymestyn hyd at 14 Awst, 2027. Yn unol â Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, mae gan Gyngor Gwynedd hawl i erlyn pobl sy’n caniatáu i’w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus. Gall hyn arwain at gosb yn y fan a’r lle o £100 neu erlyniad gyda chosb o uchafswm o £1,000.
Rhwng Rhagfyr 2023 a Medi 2024 mae’r Cyngor wedi rhoi 33 Hysbysiad Cosb Benodedig, sydd yn gynnydd ar ffigyrau llynedd.
Os oes gennych dystiolaeth fod rhywun yn caniatáu i’w ci faeddu mewn man cyhoeddus a heb ymdrech i glirio’r baw, mae modd cysylltu yn gyfrinachol gyda’r Cyngor er mwyn i Wardeiniaid Gorfodaeth Stryd ymchwilio i’r mater.
Mae gwybodaeth bellach ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/cwn a gellir adrodd problem baw ci ar www.gwynedd.llyw.cymru/BawCi