Ymateb Cyngor Gwynedd i raglen Wales Investigates BBC Wales
Dyddiad: 09/10/2024
Yn dilyn darlledu rhaglen BBC Wales ‘Wales Investigates’ ddoe (8 Hydref, 2024) a oedd yn cynnwys gwybodaeth a honiadau newydd am y cyn bennaeth ysgol, Neil Foden, mae’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wedi cyhoeddi’r datganiad canlynol.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“O'r foment y daeth y troseddau difrifol a gyflawnwyd gan Neil Foden yn erbyn plant i'r amlwg, rwyf wedi fy ysgwyd ac wedi fy mrawychu. Mae fy meddyliau'n parhau i fod gyda'r holl ddioddefwyr a'u teuluoedd.
“Mae diogelwch a llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Ngwynedd wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud. Gwn fod fy nghyd-aelodau ar Gyngor Gwynedd yn rhannu fy ffieidd-dra ynghylch yr hyn y mae Neil Foden wedi'i wneud a'n bod yn unfryd o’r farn fod yr hyn a ddigwyddodd i'w ddioddefwyr yn drasiedi na ddylai fyth ddigwydd eto.
“Nawr fod y broses droseddol wedi'i chwblhau, a bod Neil Foden dan glo, mae Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol wedi'i lansio gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
“Mae’n bwysig pwysleisio fod y Panel Adolygu Ymarfer Plant yn gwbl annibynnol o Gyngor Gwynedd ac mae'n cael ei gadeirio gan Jan Pickles, sy’n arbenigwr mewn diogelu plant.
“Bydd yr holl wybodaeth berthnasol sydd yn ein meddiant, neu unrhyw wybodaeth newydd ddaw i'n sylw, yn cael ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd i arbenigwyr yr Adolygiad Ymarfer Plant erbyn y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer yr holl asiantaethau, sef dydd Gwener, 11 Hydref.
“Cam cyntaf o gael cyfiawnder i ddioddefwyr Neil Foden oedd ei euogfarn a'i ddedfrydu. Y cam nesaf yw sicrhau fod gwersi'n cael eu dysgu fel nad oes unrhyw blentyn arall yn dioddef camdriniaeth gan droseddwyr fel Neil Foden. Rwy'n gobeithio y bydd y gweithredoedd hyn yn helpu i ddod â rhywfaint o dawelwch meddwl i'r dioddefwyr a'u teuluoedd.
“Byddwn yn gwneud beth bynnag sydd ei angen i gynorthwyo arbenigwyr annibynnol yr Adolygiad i gwblhau eu gwaith. Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymrwymo'n llwyr i weithredu pob argymhelliad ddaw o’r broses ar unwaith.
“Fel Cyngor, rydym hefyd wedi datgan yn glir y byddwn yn ymrwymo’n llwyr i bob ymchwiliad ac adolygiad sydd eu hangen yn sgil yr achos difrifol hwn gan mai ein blaenoriaeth yw sefydlu’r holl ffeithiau a gwersi i’w dysgu o hynny. Os bydd ymchwiliadau eraill o unrhyw fath yn cael eu sefydlu, byddwn yn croesawu hynny ac yn cefnogi eu gwaith yn llawn.
“Rydym hefyd yn annog unrhyw aelodau o'r cyhoedd sydd â gwybodaeth newydd yn ymwneud â chamdriniaeth plant posib i gysylltu’n uniongyrchol â'r Heddlu neu ag Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eu cyngor lleol.”
Nodiadau
Mae'r Adolygiad Ymarfer Plant statudol yn bwrw mlaen ac mae'n hanfodol ein bod yn osgoi unrhyw risg o gyfaddawdu neu danseilio'r broses hon. Am y rheswm hwn, ni fyddai'n briodol i Gyngor Gwynedd wneud sylw pellach.