Cyngor Gwynedd yn cael sêl bendith i godi naw o gartrefi ym Morfa Nefyn

Dyddiad: 13/01/2025

Bydd Cyngor Gwynedd yn bwrw mlaen i godi naw tŷ newydd ym Mhen Llŷn er mwyn diwallu anghenion tai lleol, wedi i’r datblygiad arfaethedig dderbyn caniatâd gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd yn ei gyfarfod heddiw (13 Ionawr).

Mae’r datblygiad ym Morfa Nefyn yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sydd â’r bwriad o godi hyd at 90 o dai o ansawdd sy’n fforddiadwy i bobl leol brynu neu rentu trwy’r sir. Amcan cynllun Tŷ Gwynedd yw creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol, yn enwedig i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu cartref ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Bydd safle Tŷ Gwynedd Morfa Nefyn yn cynnwys pedwar cartref dwy ystafell wely a phum cartref tair ystafell wely, gyda rhai o’r tai wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i’w haddasu i gynnwys mwy o ystafelloedd er mwyn eu gwneud yn gartrefi gydol oes i deuluoedd.

Mae'r datblygiad o dan gynllun Tŷ Gwynedd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r Cynllun ehangach yn bwriadu darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf.

Unwaith y bydd y cartrefi ym Morfa Nefyn wedi eu cwblhau, bydd yn bosib i bobl leol ymgeisio amdanynt trwy Tai Teg, sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi ei enw ymlaen ar gyfer un o'r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru gyda Tai Teg cyn gynted â phosibl: Tai Teg

Dywedodd Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:

“Dw i’n eithriadol o falch gweld bod y prosiect yma’n symud yn ei flaen a’n bod gam yn nes at weld cartrefi newydd, safonol, fforddiadwy ar y safle yma. Mae dros 80% o drigolion Morfa Nefyn wedi eu prisio allan o’r farchnad dai — cyfran sylweddol sy’n methu prynu cartref yn eu cymuned eu hunain. Mae hyn yn anghyfiawn ac yn amlygu'r angen enfawr am gartrefi fforddiadwy yn yr ardal.

“Un o egwyddorion allweddol cynllun Tŷ Gwynedd ydi ein bod yn adeiladu cartrefi gydag anghenion darpar drigolion yn ganolog iddynt. Bydd modd eu haddasu ar gyfer teuluoedd sy’n tyfu trwy gynyddu nifer y llofftydd. Bydd y cartrefi yn fforddiadwy i bobl leol ac yn ynni-effeithlon, ac felly yn glyd ac yn rhatach i’w cynhesu — nodweddion sy’n hanfodol i gymuned fel Morfa Nefyn.

“Dw i’n edrych ymlaen at weld y safle’n datblygu, a’r effaith gadarnhaol a ddaw yn sgil hyn ar y gymuned ehangach. Dw i’n annog unrhyw un sydd efo diddordeb mewn ymgeisio am un o’r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru rŵan trwy Tai Teg.”

Dywedodd Aelod Lleol ward Morfa Nefyn a Thudweiliog ac Aelod Cyngor Tref Nefyn, y Cynghorydd Gareth Tudor Jones:

“Mae angen dybryd am fwy o dai fforddiadwy yn Llŷn, a dw i’n croesawu’r newyddion bod Cyngor Gwynedd wedi derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yma. Mae Cyngor Tref Nefyn yr un mor falch o weld y prosiect yn symud ymlaen i'r cam nesaf.

“Dyma leoliad delfrydol i adeiladu cartrefi newydd – yn enwedig i deuluoedd ifanc ac unigolion sydd wedi cael eu prisio allan o’r farchnad dai. Mae'r safle mewn lleoliad hynod o gyfleus dros ffordd i faes chwarae penigamp ac o fewn pellter cerdded i Ysgol Morfa Nefyn.

“Yn bwysicaf oll, bydd y prosiect yma’n golygu bod mwy o bobl leol yn cael aros yn eu milltir sgwâr, yn hytrach na gorfod symud i ffwrdd i ddod o hyd i gartref fforddiadwy. Mae’n gam ymlaen i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein cymunedau gwledig Cymreig.”