Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi cynllun mewn ymateb i droseddau Neil Foden

Dyddiad: 13/01/2025

Mewn cyfarfod ar 21 Ionawr, bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cynllun sy’n gosod allan yr ystod o weithdrefnau a threfniadau sydd ar y gweill i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu yn sgil troseddau Neil Foden.

Mae chwe prif amcan i’r Cynllun:

  • Cydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai y fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai yr un plentyn oddef y fath brofiadau.
  • Ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef.
  • Cefnogi y dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa.
  • Sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach.
  • Dysgu yr holl wersi a gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad.
  • Gwella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.

Mae’r Cyngor wedi derbyn mewnbwn gwerthfawr gan asiantaethau allanol i lunio’r cynllun a bydd y cyrff hyn yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth iddo gael ei weithredu a’i ddatblygu. 

Bydd yr Aelodau Cabinet yn ystyried cyfres o argymhellion, gan gynnwys:

  • Neilltuo adnodd i sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol i gydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol. Bydd y Bwrdd yn cael ei arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodaeth allanol o gyrff megis Swyddfa’r Comisiynydd Plant, Llywodraeth Cymru ac Estyn; yn ogystal a Chadeirydd y Panel Adolygiad Ymarfer Plant.
  • Ffurfioli galwad Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i droseddau Neil Foden.

Os bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu, bydd y Bwrdd Rhaglen yn adolygu a monitro’r cynnydd yn rheolaidd a bydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi y Cyngor yn craffu’r cynnwys.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Wrth i’r Cynllun Ymateb ddod gerbron y Cabinet, rydym yn cael ein hatgoffa unwaith eto o ddewrder a gwytnwch y dioddefwyr a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn; a’n cyfrifoldeb ni fel aelodau etholedig i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc yn dioddef yn yr un ffordd eto yng Ngwynedd.

“Pan gefais fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ddechrau mis Rhagfyr, fy ngweithred gyntaf oedd i ymddiheuro i’r dioddefwyr ac i addo y byddwn yn troi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le. Os ydi’r Cynllun hwn yn cael ei fabwysiadu, bydd yn gam ar y daith tuag at wireddu’r addewid hwn.

“Mae’r Cynllun yn tynnu at ei gilydd mewn un ddogfen y mesurau rydym wedi eu rhoi mewn lle yn barod a’r hyn y byddwn yn ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn galluogi cynghorwyr, pobl Gwynedd, y Llywodraeth a’r Comisiynydd Plant i fesur ein cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau. Yn ogystal, gan ei bod yn ddogfen fyw, mae hyblygrwydd i’w haddasu yn ôl yr angen.

“Wrth gwrs, ni fydd y gwaith yma’n troi’r cloc yn ôl nac yn dad-wneud yr effaith ar y dioddefwyr, ond mae’n gynllun cadarn a thryloyw sy’n ymateb i sefyllfa wirioneddol erchyll. Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma o gymorth i gymuned Ysgol Friars wrth iddynt adfer ac ail-adeiladu ac yn gam ar daith y Cyngor i ymchwilio i’r hyn aeth o’i le a’r gwersi sydd i’w dysgu i’r dyfodol.

“Mae’r adroddiad hefyd yn datgan fod Cyngor Gwynedd yn llwyr gefnogol ac ymrwymedig i’r Adolygiad Ymarfer Plant sydd eisoes ar y gweill, yn ffurfioli ein galwad am Ymchwiliad Cyhoeddus ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru – sef y corff sydd â’r grym statudol – i ddod i benderfyniad amserol ar hyn.”

Nodiadau – Mae’r adroddiad fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Gwynedd i’w weld yma: Rhaglen ar gyfer Y Cabinet ar Dydd Mawrth, 21ain Ionawr, 2025, 1.00 y.h.