Cyngor Gwynedd yn darparu anrhegion i blant sy'n profi digartrefedd dros y Nadolig
Dyddiad: 08/01/2025
Sicrhaodd Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd fod pob plentyn mewn llety argyfwng yn derbyn anrheg dros y Nadolig, gan godi £500 trwy gyfraniadau staff ym mis Rhagfyr. Dosbarthodd Dîm Digartrefedd y Cyngor anrhegion i bron i 70 o blant Gwynedd, gan sicrhau fod gan deuluoedd sy’n profi digartrefedd anrhegion i’w hagor ar fore’r Nadolig. Fe wnaeth y gymdeithas dai, Adra, hefyd roi’n hael tuag at yr ymgyrch.
Bob dydd, mae tua 3 pherson yn cyflwyno’n ddigartref yng Ngwynedd. Ar ben hynny, mae pobl sy’n profi digartrefedd yn treulio ar gyfartaledd oddeutu 200 diwrnod mewn llety argyfwng megis gwely a brecwast oherwydd nad oes digon o dai i bobl symud ymlaen i gartref parhaol. Mae mynd i'r afael â digartrefedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor, a thrwy ei Gynllun Gweithredu Tai uchelgeisiol gwerth £140 miliwn, mae Cyngor Gwynedd yn:
• Datblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth trwy’r sir.
• Creu llety pwrpasol ar gyfer pobl ifanc sy’n profi digartrefedd.
• Darparu cefnogaeth iechyd meddwl arbenigol i gefnogi pobl fregus mewn perygl o fod yn ddigartref.
Dywedodd Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson:
“Mae colli eich cartref yn brofiad trawmatig i bobl waeth beth yw eich oed. Mae’n arbennig o anodd i blant a’u teuluoedd dros dymor y Nadolig – yn enwedig os ydynt yn gorfod byw, o bosib, am gyfnod hir mewn llety argyfwng.
“Dyna pam mae’n braf gweld staff Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, dan arweiniad y tîm Digartrefedd, yn dod at ei gilydd i godi arian a sicrhau bod pob plentyn mewn llety argyfwng ar draws Gwynedd yn derbyn o leiaf un anrheg y Nadolig yma. Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i lawer o bobl yn y sir, gyda’r argyfwng tai yn parhau, er gwaethaf ein holl ymdrechion i helpu i sicrhau cartref i bawb, a chostau byw yn dal i gynyddu. Dw i’n falch iawn gweld caredigrwydd staff yr Adran yn dod â chysur i deuluoedd sy’n wynebu amgylchiadau heriol dros ben yn ystod cyfnod y Nadolig. Hoffwn ddiolch hefyd i’r gymdeithas dai, Adra, am gyfrannu’n hael at yr ymgyrch.”
Os ydych chi’n profi digartrefedd neu nabod rhywun sy’n profi digartrefedd, neu sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, cysylltwch â’r Tîm Digartrefedd ar:
01766 771000
digartref@gwynedd.llyw.cymru (cael ei fonitro yn ystod oriau swyddfa yn unig)
Mwy o wybodaeth: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Digartrefedd.aspx