Cyngor Gwynedd yn ehangu mynediad at wasanaethau hanfodol
Dyddiad: 07/01/2025
Mae gwybodaeth am wasanaethau Cyngor Gwynedd bellach ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydeinig, wrth i’r awdurdod gymryd cam arall ymlaen yn y maes hygyrchedd a chydraddoldeb.
Mae modd i bobl sy’n defnyddio iaith arwyddo wylio fideos ar wefan y Cyngor er mwyn cael gwybodaeth am finiau ac ailgylchu, gwasanaeth tai, gweithio i’r Cyngor, gwneud cais am fathodyn glas (parcio), ac am greu cyfrif ar-lein gyda’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaethau Corfforaethol:
“Rydw i’n falch iawn bod cyfres o fideos Iaith Arwyddion Prydeinig wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.
“Mae sicrhau tegwch i bawb yn un o brosiectau blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2023-28. Yn hyn o beth rydym am roi sylw dyledus i gydraddoldeb ac yn adnabod bod angen sicrhau fod y Cyngor yn trin pawb mewn ffordd sy’n deg, beth bynnag eu nodweddion cydraddoldeb, eu cefndir a’u hanghenion.
“Rydym yn gobeithio bydd y cam hwn o fudd i drigolion y sir sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig, sy’n un o ieithoedd brodorol y Deyrnas Unedig, i gael mynediad at wybodaeth am wahanol wasanaethau’r Cyngor. Dyma fan cychwyn i ddarparu gwybodaeth am rhai o’r prif feysydd ymholiadau mae’r Cyngor yn eu derbyn mewn modd sydd yn hygyrch i’r rhai sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig, gyda’r gobaith o greu mwy i’r dyfodol.”
Mae gan Gyngor Gwynedd drefniant gyda Chanolfan Sain Golwg Arwyddion (The Centre for Sign Sight Sound) i wireddu’r prosiect hwn.
Am ragor o wybodaeth neu fynediad at yr adnodd ewch i wefan Cyngor Gwynedd:
BSL: Gwybodaeth yn Iaith Arwyddion Prydeinig (llyw.cymru)
Os ydych angen cymorth yn Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL), cysylltwch â: info@signsightsound.org.uk neu drwy neges destun ar 07799 533547