Cynllun Cyngor Gwynedd i gyfarch bwlch ariannol o £8.8 miliwn

Dyddiad: 31/01/2025

Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi ymrwymo i warchod y mwyaf bregus a’r gwasanaethau sydd bwysicaf i drigolion y sir wrth iddynt osod cyllideb ar gyfer 2025/26.

Fel Cynghorau eraill ar draws Cymru, mae cyllidebau yng Ngwynedd yn parhau i gael eu herydu gan nad yw’n derbyn cyllideb ddigonol gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i warchod yr arian sydd ar gael i ysgolion am y flwyddyn i ddod; ac i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny mae’r bobl fwyaf bregus yn y sir yn ddibynnu arnynt, gan gynnwys diogelu a chefnogi plant sy'n agored i niwed, gwasanaethau i blant anabl a gwasanaethau cymdeithasol i oedolion.

Yn dilyn derbyn cyllideb wael gan Lywodraeth Cymru, dros y ddegawd ddiwethaf mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi gorfod torri bron i chwarter o’i gyllideb refeniw dydd-i-ddydd, sef tua £74 miliwn. Llwyddwyd i wneud hyn drwy adnabod ffyrdd mwy cost-effeithiol o weithio a chyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.

Er gwaetha’r cynllunio ariannol gofalus hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, sydd wedi gweld cyllidebau gwasanaethau lleol yn cael eu torri i’r asgwrn, ni fydd gan Gynghorwyr Gwynedd ddewis ond gorfod cynyddu’r Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mae cynnig gerbron Cynghorwyr Gwynedd i weithredu cyfuniad o gynlluniau i gynyddu incwm, lleihau adnoddau neu gyfuno gwasanaethau er mwyn gwneud popeth posib i geisio cadw’r cynnydd yn y dreth mor isel â phosib i drigolion y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:

“Does yr un ohonom wedi dewis dod i fewn i wleidyddiaeth lleol i dorri gwasanaethau a chodi mwy o drethi, ond yn anffodus oherwydd diffyg cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru, dyma’r unig ddewis o’n blaenau er mwyn galluogi’r Cyngor i osod cyllideb gyfreithlon ar gyfer 2025/26.

“Yn ystod y trafodaethau rydym eisoes wedi eu cael, rydym wedi cytuno ar becyn o fesurau i amddiffyn cyllidebau ysgolion Gwynedd ac i fuddsoddi yn y gwasanaethau hynny mae’r bobl fwyaf bregus yn y sir yn ddibynnu arnynt.

“Rydym hefyd wedi ymrwymo i leihau rhestrau aros am ofal a chefnogi’r cwmnïau annibynnol sy’n darparu gwasanaethau gofal ar ran y Cyngor i gwrdd â’r cynnydd mewn costau Yswiriant Gwladol.

“Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu gwarchod rhain, ond yn anffodus ni fydd dewis ond cynyddu’r dreth er mwyn gallu gosod cyllideb gytbwys a chyfreithlon.”

Mae tri rheswm am y diffyg ariannol sy’n wynebu Cyngor Gwynedd:

  • Cynnydd parhaus yn y galw am wasanaethau allweddol ar gyfer pobl Gwynedd, megis gwasanaethau gofal i oedolion, gwasanaethau gofal plant a gwasanaethau gwastraff; 
  • Cynnydd yn y costau sy’n wynebu’r Cyngor, er enghraifft mae polisi Llywodraeth San Steffan o gynyddu cyfaniad Yswiriant Gwladol y cyflogwr wedi arwain at gynnydd o hyd at £4.5 miliwn mewn costau staffio i Gyngor Gwynedd;
  • Nid yw Cyngor Gwynedd yn derbyn cyllid digonol gan Llywodraeth Cymru i gwrdd â’r gofynion hyn. O’r 22 Cyngor lleol yng Nghymru, Cyngor Gwynedd fydd yn derbyn y setliad isaf ond un ar gyfer 2025/26.

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

“Rydym wedi bod yn rhybuddio’r Llywodraeth ers amser maith fod diffyg arian flwyddyn ar ôl blwyddyn yn rhoi’r gwasanaethau sydd ar gael i’n trigolion yn y fantol, ac yn galw arnynt i ariannu cynghorau lleol yn deg. Unwaith eto eleni nid oes gennym opsiwn ond i dorri gwasanaethau a chynyddu’r dreth.

“Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw’r cynnydd yn y Dreth Cyngor mor isel a phosib ond heb gyllideb deg gan y Llywodraeth nid oes dewis gennym. Dwi’n bryderus y bydd y cynnydd pellach yma yn rhoi mwy o bwysau ar aelwydydd ac rwyf yn atgoffa pobl fod cymorth ar gael i rheini sy’n ei chael yn anodd, yn ogystal â phecyn cynhwysfawr o gefnogaeth i helpu pobl i ymdopi â’r argyfwng costau byw.

“Rydym yn rhagweld bydd y Cyngor yn gorwario £8.3 miliwn eleni, gyda 83% o’r swm yma yn y maes gofal oedolion a phlant. Mae’n bwysig ein bod yn gwbwl glir fod y sefyllfa yma yn cael ei achosi gan ddiffyg yn yr arian sy’n dod i fewn gan y Llywodraeth. Yn syml, nid yw’r swm rydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn adlewyrchu’r cynnydd mewn galw a chostau, ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid yw’n opsiwn i ni beidio a darparu y gwasanaethau hynny.

 

“Mae’n dorcalonnus gweld y straeon tu ôl i’r ffigyrau hyn, er enghraifft mae gorwariant gwasanaethau cymdeithasol plant wedi gwaethygu’n sylweddol ers blwyddyn ac wedi cynyddu o £2.6 miliwn i £3.7 miliwn, yn bennaf o ganlyniad i gynnydd yng nghostau lleoli plant a’r cynnydd yng nghymhlethdodau pecynnau gofal. Er fod gwariant yn y maes digartrefedd wedi lleihau ers blwyddyn, rydym dal i fod yn gwario £5 miliwn eleni ar wasanaeth llety argyfwng.”

Wedi pwyso a mesur manwl, bydd Cynghorwyr Gwynedd yn cytuno ar gyllideb derfynol yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 6 Mawrth pan y bydd rhaid iddynt ystyried codi’r Dreth Cyngor 8.23% a chymeradwyo arbedion a thoriadau gwerth £519,000.

Mae cymorth ar gael i aelodau o’r cyhoedd sy’n poeni am eu sefyllfa ariannol – ewch i wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/CostauByw

Nodiadau

Mae Cyngor Gwynedd yn rhagdybio y bydd yn derbyn £3.5 miliwn drwy law Llywodraeth Cymru tuag at gostau ychwanegol Yswiriant Gwladol ond ni fydd y Cyngor yn derbyn unrhyw gadarnhad o hyn tan yr haf, ymhell ar ôl gosod y gyllideb a chychwyn talu’r raddfa uwch o gyfraniad cyflogwr tuag at Yswiriant Gwladol.

Bydd cyfraniad Cyngor Gwynedd i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynyddu o 0.43%, a hynny yn ychwanegol i’r cynnydd yn y Dreth Cyngor.

Camau nesaf y broses o osod cyllideb Cyngor Gwynedd: