DEMENTIA Manteisio ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir Llwybr Cymorth Cof Gogledd Cymru
Dyddiad: 27/01/2025
Ydych chi'n poeni am eich cof? Nid chi yw'r unig un. Amcangyfrifir bod 11,900 o bobl yn byw gyda dementia yng Ngogledd Cymru, a bod rhyw 67,000 o ofalwyr di-dâl yn rhoi cymorth i anwyliaid, yn ôl Cyfrifiad 2021. Mae Gwasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru yn cynnig cymorth wedi'i deilwra i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt. Mae hyn yn cynnwys unigolion sy'n pryderu ynghylch materion sy'n effeithio ar y cof, y rhai sy'n byw gyda dementia gartref neu yn yr ysbyty, a'u ffrindiau a'u teuluoedd.
Rhoddodd y gwasanaeth gymorth i 4,700 o bobl yn ystod 2023/24, dros 1,200 yn fwy o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae cymorth ar gael ar bob cam o'r daith ddementia - cyn, yn ystod, ac ar ôl diagnosis. Mae cydweithio rhwng y chwe awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Alzheimer's, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, a NEWCIS yn sicrhau bod cyngor ac arweiniad yn cael eu personoli i ddiwallu anghenion unigol.
Gallwch fanteisio ar gymorth trwy ymweld ag un o'r chwe Chanolfan Ddementia neu trwy gysylltu â nhw. Mae un ar gael ym mhob sir yng Ngogledd Cymru. Maent wedi'u lleoli yn Llangefni, Bangor, Bae Colwyn, Dinbych, Treffynnon a Wrecsam. Nid oes angen unrhyw gyfeiriad gan feddyg teulu na gweithiwr proffesiynol, ond gall gweithwyr proffesiynol gysylltu ar ran yr unigolyn hefyd.
Y rhif ffôn i gysylltu ag unrhyw ganolfan dementia yng Ngogledd Cymru yw: 01492 542212. Gallwch ffonio o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.
Y cyfeiriad e-bost yw NWmemorysupport@ctnw.org.uk
Mae'r Canolfannau Dementia yn darparu:
- Gwybodaeth a chyngor
- Gweithgareddau a Dal i Fyny
- Cymorth emosiynol a chymorth cymheiriaid
- Siaradwyr gwadd a chlinigau iechyd.
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant:
“Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu partneriaeth waith dda gyda staff y Ganolfan Dementia ym Mangor a rwyf yn falch o weld y gwahanol sefydliadau yn cydweithio er budd pobl sy’n byw gyda dementia a’i teuluoedd.
“Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal gweithgareddau yng Nghricieth unwaith yr wythnos ac mae tîm Dementia Actif Gwynedd yn gweithio gyda’r rhwydwaith o hybiau cymunedol ar draws y sir er mwyn sicrhau fod gwasanaethau a chefnogaeth ar gael i bobl o fewn eu cymunedau eu hunain.
“Mae rhai heriau cychwynnol wedi bod gyda’r ddarpariaeth ym Mangor and rwy’n awyddus fod gwersi yn cael eu dysgu wrth i ni symud ymlaen.”
Mae hwn yn un o'r gwasanaethau lawer a ariennir gan Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru , sy'n rhoi cymorth o ran cyflwyno amrywiaeth o fentrau iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer pobl a chymunedau ar draws y rhanbarth.
I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cymorth Cof Gogledd Cymru, ewch i: https://www.northwalescollaborative.wales/dementia/north-wales-memory-support-pathway/
I ddysgu mwy am Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru, ewch i: https://www.northwalescollaborative.wales/regional-partnership-board/