Derbyn cynllun mewn ymateb i droseddau Neil Foden
Dyddiad: 24/01/2025
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i gynllun sy’n gosod allan yr ystod o weithdrefnau a threfniadau sydd ar y gweill i ymchwilio i’r holl wersi i’w dysgu yn sgil troseddau Neil Foden.
Mae chwe prif amcan i’r Cynllun:
- Cydnabod yn agored a chyhoeddus na ddylai y fath droseddau fyth fod wedi digwydd ac na ddylai yr un plentyn oddef y fath brofiadau.
- Ymddiheuro yn ddidwyll i’r dioddefwyr a’u teuluoedd am yr hyn y maent wedi gorfod ei ddioddef.
- Cefnogi’r dioddefwyr, yr ysgol a’r gymuned ehangach i geisio adfer eu sefyllfa.
- Sefydlu holl ffeithiau yr achos, yr hanes o amgylch y sefyllfa a’r cyd-destun ehangach.
- Dysgu yr holl wersi a gaiff eu hadnabod fel rhan o gasgliadau ac argymhellion pob ymchwiliad.
- Gwella drwy ymateb yn gyflawn a chyflym i bob casgliad ac argymhelliad gyda’r nod o roi hyder i’r cyhoedd fod y Cyngor yn gwneud popeth posib i sicrhau na fydd neb yn dioddef yn yr un modd fyth eto.
Mae’r Cyngor wedi derbyn mewnbwn gwerthfawr gan asiantaethau allanol i lunio’r cynllun a bydd y cyrff hyn yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth iddo gael ei weithredu a’i ddatblygu.
Yn ystod y cyfarfod, derbyniodd y Cabinet argymhelliad i neilltuo adnodd i sefydlu Bwrdd Rhaglen penodol i gydlynu a sicrhau cynnydd priodol ac amserol i gamau a gweithdrefnau ymatebol. Bydd y Bwrdd yn cael ei arwain gan berson annibynnol ac yn cynnwys aelodaeth allanol.
Yn ogystal, ffurfiolwyd galwad Cyngor Gwynedd ar Lywodraeth Cymru i gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus i droseddau Neil Foden ynghyd ag ategu cefnogaeth yr awdurdod i’r Adolygiad Ymarfer Plant sydd eisoes ar waith.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Pan gefais fy ethol yn Arweinydd y Cyngor ddechrau mis Rhagfyr, fy ngweithred gyntaf oedd i ymddiheuro i’r dioddefwyr ac i addo y byddwn yn troi pob carreg i sefydlu beth aeth o’i le. Dwi’n croesawu’r ffaith fod y Cabinet wedi derbyn y Cynllun a thrwy wneud hynny rydym yn symud ymlaen ar ein taith i gael at wraidd y mater.
“Mae’r Cynllun yn tynnu at ei gilydd mewn un ddogfen y mesurau rydym wedi eu rhoi mewn lle yn barod a’r hyn y byddwn yn ei wneud dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod. Bydd hyn yn galluogi cynghorwyr, pobl Gwynedd, y Llywodraeth a’r Comisiynydd Plant i fesur ein cynnydd ac adnabod unrhyw fylchau.
“Mae hon yn ddogfen fyw a bydd modd ychwanegu at y cynllun wrth i bethau ddatblygu dros amser.
“Gyda’r holl waith sy’n mynd ymlaen yn y maes, mae’n hanfodol bwysig nad ydym yn anghofio’r rhai pwysicaf un ynghanol hyn i gyd, sef y dioddefwyr a phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y troseddau erchyll hyn. Mae’n nhw yn parhau i fod ar flaen ein meddyliau a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau na fydd unrhyw berson ifanc yn dioddef yn yr un ffordd eto yng Ngwynedd.”