Cabinet Cyngor Gwynedd yn cymeradwyo Cynllun Ariannol Tymor Canolig

Dyddiad: 15/05/2024
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd yn rhybuddio bydd y bwlch ariannol sy’n wynebu’r awdurdod yn cynyddu’n sylweddol dros y dair blynedd nesaf.

 

Mewn ymateb, mae’r Cabinet wedi mabwysiadu Cynllun Ariannol Tymor Canolig fel ffordd o droi pob carreg posib er mwyn lleihau gwariant yr Awdurdod, gyda’r nod o fedru gwneud hynny cyn dechrau trafodaethau ar lefel y Dreth Cyngor ar gyfer 2025/26.

 

Dros y blynyddoedd diweddar, oherwydd polisïau llymder llywodraeth ganolog, mae’r arian mae cynghorau lleol fel Gwynedd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru yn bell o fod yn ddigon. Ond ar yr un pryd mae’r gost o ddarparu gwasanaethau lleol yn cynyddu’n aruthrol wrth i fwy o deuluoedd bregus fod mewn angen.

 

Er enghraifft, mae dros 2,500 yn fwy o gyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol plant Gwynedd na’r cyfnod cyn Covid-19; mae  dros 2,000 yn fwy o gyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl y Cyngor dros yr un cyfnod ac mae gwariant yr awdurdod ar wasanaethau i bobl ddigartref wedi dyblu ers 2021/22.

 

Daw hyn wedi blynyddoedd o lymder ariannol ac ers 2006 mae Cyngor Gwynedd wedi gweithredu £90 miliwn o arbedion effeithlonrwydd, wedi ail-flaenoriaethu gwasanaethau a pharhau i ddarparu gwasanaethau ar lai o arian. Erbyn diwedd y dair blynedd nesaf – ac ar ôl cyflawni’r arbedion newydd – bydd Cyngor Gwynedd wedi gwireddu cyfanswm o £107 miliwn o arbedion.  

 

Mae’r adroddiad a gyflwynwyd gerbron y Cabinet yn ei gyfarfod ddoe (14 Mai) yn nodi fod y gyfundrefn o weithredu arbedion yma ac acw wedi cyrraedd diwedd ei hoes a bod angen cyflwyno trefniadau newydd er mwyn cyrraedd y lefel o doriadau sy’n wynebu’r Cyngor i’r dyfodol gweladwy.

 

Mae tair congl-faen i’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a gymeradwywyd gan y Cabinet, sef:

  • sefydlu cyfundrefn ‘rhybudd cynnar’ er mwyn galluogi’r Cyngor i rewi gwariant mewn rhai meysydd ar fyr-rybydd os bydd cyllidebau o dan bwysau;
  • adnabod y gwasanaethau mwyaf hanfodol i bobl Gwynedd er mwyn adeiladu’r hyn sydd o fewn gallu’r Cyngor i’w ddarparu;
  • cynnal cyfres o adolygiadau gwariant manwl.

Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf sydd ar gael sy’n edrych yn debyg na fydd ariannu digonol o wasanaethau cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae’r gofynion gwariant ychwanegol fydd yn wynebu’r awdurdod dros y dair blynedd yn cynyddu gan fod pethau fel ynni, yswiriant, deunyddiau crai a chyflogau yn llawer drutach.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:

 

“Ar sail yr wybodaeth sydd ar gael i ni ar hyn o bryd, mae’r adroddiad hwn wedi amlygu ein bod yn edrych ar fwlch cronnus o £17.4 miliwn yng nghyllidebau’r Cyngor dros dair blynedd nesaf.

 

“Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y bydd y Cyngor yn penderfynu cynyddu’r Dreth Cyngor 5% yn flynyddol dros y dair blynedd nesaf. Oni bai y bydd y Cyngor yn gwneud hyn, rydym yn rhagweld y bydd y bwlch yn cynyddu i dros £36 miliwn ac y byddai rhaid gwneud arbedion dyfnach a phellach a fyddai’n cael effaith ddinistriol a gweladwy ar bron popeth mae’r Cyngor yn ei wneud.  

 

“Rydw i’n croesawu’r cyfle hwn i gyflwyno cyfundrefn ariannol newydd mwy gwydn a chynaliadwy ar gyfer yr hirdymor, drwy edrych yn fanwl ar ein blaenoriaethau am y tymor canolig.”

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid:

 

“Mae gan Gyngor Gwynedd enw da am gynllunio ein cyllidebau’n ofalus a thrwy edrych tu hwnt i ffigyrau’r flwyddyn gyfredol gallwn wneud penderfyniadau gwybodus a chynllunio am y dyfodol.

 

“Mae’n debyg na fyddwn yn cael gwybod faint o arian yn union fydd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 tan o leiaf fis Rhagfyr 2024, ond mae’r rhagolygon yn ein harwain i’r canlyniad na fydd y setliad ariannol yn cynyddu.

 

“Er mwyn osgoi’r risg sylweddol o ansefydlogrwydd ariannol difrifol, rydw i’n croesawu’r cyfle hwn i gymryd camau cynnar a phendant i baratoi ar gyfer y dyfodol.

 

“Mae blynyddoedd o weithredu arbedion effeithlonrwydd wedi arwain at wasanaethau a staff dan bwysau cynyddol, gyda diffyg cyllideb yn arwain at orwario anorfod mewn nifer o feysydd. Rydw i’n pwysleisio fod y gair “gorwario” yn golygu cyllideb sydd ddim yn ddigonol i gynnal gwasanaeth.

“Ochr yn ochr â mabwysiadu’r cynllun hwn, rydym yn parhau i alw ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod yr argyfwng sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus ac i ariannu cynghorau lleol yn deg.”

DIWEDD

Nodiadau – Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: Adroddiad Cynllun Ariannol Tymor Canolig.pdf (llyw.cymru)