Cyfarwyddyd Erthygl 4 – cam yn y broses i ystyried gweithredu yng Ngwynedd

Dyddiad: 09/05/2024

Mae’r Cyngor wedi cyrraedd cam pwysig yn y broses o benderfynu a ddylid gweithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd.

 

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Craffu Cymunedau’r Cyngor ar 16 Mai yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd ac ymatebion y Cyngor iddynt, yn dilyn y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a gynhaliwyd yn ystod Awst a Medi 2023.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Amgylchedd Cyngor Gwynedd:

 

“Mae’r nifer sylweddol o dai yng Ngwynedd sydd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr yn cael effaith sylweddol ar allu pobl y sir i gael mynediad at gartrefi yn eu cymunedau.

 

“Cyflwynodd y Cyngor waith ymchwil manwl i Lywodraeth Cymru yn amlygu’r angen dros weithredu i gael gwell rheolaeth o’r sefyllfa.

 

“Mewn ymateb, mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno cyfres o fesurau sy’n cynnwys diwygiadau i ddeddfwriaeth cynllunio gan olygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol fel Cyngor Gwynedd gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.

 

“Rydym yn ddiolchgar i bawb a gyflwynodd sylwadau yn ystod y cyfnod ymgysylltu cyhoeddus y llynedd.

 

“Mae’r holl ymatebion wedi derbyn ystyriaeth gofalus, a bydd y drafodaeth yn y Pwyllgor Craffu yn gyfle i aelodau fwrw golwg ar y gwaith yma cyn y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor am benderfyniad terfynol.”

 

Yn ei hanfod byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi’r Cyngor fel Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn caniatâd cynllunio cyn newid defnydd prif gartref i fod yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr.

 

Ni fyddai’r newid yn berthnasol i eiddo sydd eisoes wedi sefydlu fel ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr cyn i’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ddod yn weithredol.

 

Bydd argymhellion sydd yn deillio o drafodaethau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd ar 16 Mai 2024, yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad i Gabinet y Cyngor yn unai Mehefin neu Orffennaf am benderfyniad terfynol os ydi’r Cyngor am weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4.

 

Os ydi’r Cabinet yn penderfynu bwrw ymlaen, byddai’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn weithredol o 1 Medi 2024, a hynny yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd yn unig – nid yn ardal Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r Parc yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd ar weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Eryri.

 

Am ragor o wybodaeth am Gyfarwyddyd Erthygl 4, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/Erthygl4

 

Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: Rhaglen ar gyfer Pwyllgor Craffu Cymunedau ar Dydd Iau, 16eg Mai, 2024, 10.00 y.b. (llyw.cymru)

 

Nodiadau:

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno pwerau digynsail i awdurdodau lleol, gan ganiatáu iddynt reoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn y dyfodol.

 

Mae newidiadau i'r fframwaith cynllunio cenedlaethol wedi cyflwyno tri dosbarth defnydd newydd, sef, prif gartref, cartref eilaidd a llety tymor byr. Mae gan bob awdurdod cynllunio lleol y pŵer i benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio i newid o un dosbarth defnydd i'r llall trwy ddatgymhwyso hawliau datblygu a ganiateir. Mae posib datgymhwyso'r hawliau hyn drwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4. Os bydd yn cael ei gadarnhau, Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am ei weithredu.

Mae Cyngor Gwynedd yn ystyried cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd, ac mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ariannol ar gyfer ardal Dwyfor fel y bydd modd rhannu’r hyn sy’n cael ei ddysgu o ardal y peilot ledled y wlad.

 

Mae Cyngor Gwynedd wedi gosod ‘Rhybudd ’ Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd (sef yr ardal o Wynedd a leolir tu allan i Barc Cenedlaethol Eryri). 

 

Pwrpas y Cyfarwyddyd Erthygl 4 yw diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir y canlynol:

 

  • Newid defnydd prif gartref (dosbarth defnydd C3) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) neu lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd ail gartref (dosbarth defnydd C5) i lety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) a defnyddiau cymysg penodol;
  • Newid defnydd llety gwyliau tymor byr (dosbarth defnydd C6) i ail gartref (dosbarth defnydd C5) a defnyddiau cymysg penodol.   

 

Fe wnaeth y Cyngor gynnal cyfnod ymgysylltu cyhoeddus o 2 Awst tan 13 Medi 2023, a bydd adroddiad yn ystyried yr adborth ac ymatebion iddynt yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd yn ystyried ar 16 Mai.

 

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd i’r aelodau ystyried y sylwadau fydd wedi eu derbyn a gwneud penderfyniad terfynol i gadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ai peidio ym Mehefin/ Gorffennaf.

 

Os bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn cadarnhau’r Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd yn cael ei weithredu o 1 Medi 2024 ymlaen.