Cyngor Gwynedd yn gweithio ar y cyd â Betsi Cadwaladr i gefnogi pobl fregus mewn perygl o fod yn ddigartref

Dyddiad: 15/05/2024

 Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2024, mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cadarnhau eu hymrwymiad i helpu unigolion bregus sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Ers Medi 2022, mae dau swyddog penodedig wedi helpu dros 100 o bobl yng Ngwynedd i barhau i fyw yn eu cartrefi, gyda 40 arall yn derbyn cymorth ar hyn o bryd.

Mae cefnogi tenantiaid i aros yn eu cartrefi yn rhan hanfodol o Gynllun Gweithredu Tai’r Cyngor. Ym mis Medi 2022, penododd Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd ddau swyddog i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau 

Mae sicrhau nad oes neb yn ddigartref yn flaenoriaeth allweddol yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-28. Mae cynlluniau fel datblygu mwy o unedau tai â chefnogaeth, darparu llety ar gyfer pobl ifanc ddigartref, a chynnig cefnogaeth i landlordiaid preifat i ddarparu mwy o dai ar y gweill i gyrraedd y nod hwn. 

Mae’r cynlluniau hyn yn dod o dan Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140m y Cyngor, i sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.  

Dywedodd Catrin Roberts, a benodwyd drwy’r cynllun fel Uwch Weithiwr Achos Atebion Tai ac Iechyd Meddwl: 

“Mae adeiladu ar ein trefniadau gwaith efo’r Bwrdd Iechyd i helpu pobl fregus yn rhan hanfodol o’r jig-so os ydan ni am helpu i fynd i’r afael â rhai o’r pethau sydd wrth wraidd digartrefedd. 

“Dw i’n gweithio’n agos efo Craig Hughes, o’r Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n gweithio mewn swydd sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Gwynedd. 

Trwy gynnig cymorth aml-asiantaethol prydlon, gallwn leihau’r risgiau a achosir gan gyffuriau neu alcohol i unigolion, teuluoedd a’r gymuned leol, a helpu i rwystro problemau a sefyllfaoedd anodd rhag mynd allan o reolaeth yn y lle cyntaf.  

“Trwy weithio efo’n gilydd i ymdrin ag iechyd a llesiant unigolyn, gallwn greu rhwydwaith cymorth a fydd yn helpu unigolion i adennill sefydlogrwydd yn eu bywydau a helpu rhwystro digartrefedd.” 

Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd: 

“Dw i’n falch iawn fod y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gefnogi unigolion bregus a chymryd camau rhagweithiol i atal digartrefedd. 

Mae mynd i'r afael ag argyfwng tai Gwynedd yn her gymhleth gan fod cymaint o ffactorau yn gallu arwain rhywun at sefyllfa o ddigartrefedd, gan gynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, problemau perthynas, colli swyddi, a chostau byw uchel. Hefyd, mae'r farchnad dai ddi-reolaeth yn gwaethygu'r sefyllfa ymhellach trwy brisio pobl allan o'u cymunedau eu hunain. 

“Mewn ymateb i'r heriau yma, nid adeiladu tai yn unig ydi nod Cynllun Gweithredu Tai'r Cyngor; mae hefyd yn anelu at ddarparu cymorth prydlon i atal pobl rhag colli eu cartrefi yn y lle cyntaf.” 

Ychwanegodd Phil Forbes, Rheolwr Datblygu Tai Cymorth ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

“Mae’r dull o weithio mewn partneriaeth yma wedi dod â manteision sylweddol i ddefnyddwyr ein gwasanaethau, mewn gofal acíwt ac i’r gymuned. Mae’r dull ffantastig hwn yn lleihau’r risg o ddigartrefedd ac yn ein galluogi i gynllunio gyda’n gilydd – i ymyrryd cyn gynted â phosibl – a chynhyrchu canlyniadau cadarnhaol. Mae lles unigolyn yn dechrau gyda chael lle sefydlog ac addas i fyw a dyna oedd man cychwyn ein cynllun. Mae’r swyddogion dan sylw yn cael eu gweld fel rhan o’r tîm yn ein gwasanaethau acíwt a gwasanaethau cymunedol.”