Cyngor Gwynedd yn rhoi hwb o liw a llun i ganol trefi'r sir

Dyddiad: 17/05/2024
Mae cyfle i berchnogion eiddo gwag yng nghanol rhai o drefi Gwynedd i gael gosod delweddau trawiadol yn y ffenestri blaen – yn rhad ac am ddim – er mwyn bywiogi edrychiad yr ardaloedd dan sylw, fel rhan o gynllun Cyngor Gwynedd.

Bwriad Rhaglen Canol Trefi’r Cyngor ydi cyfrannu tuag at annog buddsoddiadau i’r ardal, cynyddu balchder yn lleol, a’r weledigaeth hybu bwrlwm canol trefi. Bydd y cynllun penodol hwn o fewn y rhaglen yn helpu sicrhau fod trigolion, ymwelwyr a defnyddwyr ar draws Gwynedd yn cael profiad cadarnhaol o ymweld a threfi’r sir.

Mae ‘finyls’ – sef lluniau trawiadol o’r ardal – ar gael heb gost i berchnogion siopau ac adeiladau gweigion eraill o fewn 18 tref yng Ngwynedd. Y cwbl sydd angen i berchennog yr adeilad ei wneud ydi cysylltu â un o swyddogion Adran Economi’r Cyngor am sgwrs, rhoi mynediad i'r eiddo i'w fesur a'i osod a chymryd cyfrifoldeb dros y finyl unwaith y bydd wedi ei osod.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned:

“Os ydych chi’n berchen adeilad gwag – efallai hen siop neu swyddfa sydd ddim yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd – yn y trefi sy’n rhan o’r cynllun, byddwn yn eich annog i fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn. Rydym i gyd yn gwybod fod delwedd yn bwysig i roi hyder i’n trefi, ac mae hyn yn gyfle da i ychwanegu lliw a llun i’n trefi lleol.

“Unwaith bydd perchennog yn cysylltu efo’r Cyngor, bydd ein swyddogion yn gwirio fod  yr adeilad dan sylw yn cwrdd a’n meini prawf ac os ydi pawb yn cytuno â manylion y cynllun gellir bwrw mlaen efo’r gwaith. Bydd pob  cais ddaw i law yn derbyn ystyriaeth. Ond rhaid nodi, yn ddibynnol ar lefel y diddordeb ac addasrwydd ffenestri’r  eiddo, fod posibilrwydd na fydd pob cais yn llwyddiannus.

“Rydw i’n hynod falch fod Cyngor Gwynedd yn gallu cydweithio â chynghorau tref y sir, aelodau lleol a pherchnogion er mwyn dylunio a gosod finyls sydd â delweddau trawiadol o’r ardal.”

Mae’r cynllun yn weithredol yn y trefi canlynol: Bangor; Caernarfon; Pwllheli; Porthmadog; Bala; Dolgellau; Bethesda; Blaenau Ffestiniog; Bermo; Nefyn; Harlech; Penrhyndeudraeth; Penygroes; Criccieth; Llanberis; Abersoch; Aberdyfi; a Tywyn. I fod yn gymwys, rhaid i’r eiddo fod o fewn ffin canol y dref.

I wneud cais am y cynllun, neu i drafod y cynllun, cysylltwch os gwelwch yn dda drwy e-bostio: adfywio@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio: 07764399882 cyn 7 Mehefin, 2024. Mae hwn yn gynllun rhag ac am ddim a nid oes disgwyl i'r perchennog gyfrannu'n ariannol tuag at creu na gosod y finyls.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Raglen Canol Trefi Cyngor Gwynedd, ac wedi ei ariannu drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.