Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn wedi ei raddio fel 'Da'

Dyddiad: 31/05/2024
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn (GCI) wedi derbyn sgôr gyffredinol o ‘Dda’ yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.

 

Cafodd y gwasanaeth ei arolygu a'i raddio ar draws tri maes eang: y trefniadau ar gyfer darparu'r gwasanaeth yn sefydliadol, ansawdd y gwaith a wneir gyda phlant sy'n cael eu dedfrydu gan y llysoedd, ac ansawdd y gwaith yn ymwneud â datrysiadau y tu allan i'r llys.

 

Mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cael ei letya gan Gyngor Gwynedd ac yn gweithredu ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, ac mae’n dîm aml-asiantaethol sydd yn gweithio gyda plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu neu wedi troseddu.

 

Meddai Stephen Wood, Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn: “Rydym yn hynod falch gyda’r graddiad cyffredinol 'Da' sydd wedi ei gyhoeddi yn dilyn yr Arolygiad o’r gwasanaeth.


“Bu i'r arolygiaeth adnabod sawl maes o ymarfer da gan gynnwys trefniadau partneriaethol cryf sy'n llywio ac yn darparu adnoddau ar gyfer gweithio'n effeithiol â phlant a theuluoedd; grŵp o staff sy'n cael eu cefnogi a'u goruchwylio’n dda, a thystiolaeth bod plant a rhieni yn rhan weithredol o'r gwaith o gynllunio a chyflwyno cefnogaeth.

 

“Rydym yn falch bod sylw wedi ei wneud am ansawdd uchel yr ymgysylltiad a’r gefnogaeth y mae staff y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn ei gynnig i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd. Ac wrth gwrs rydym yn ddiolchgar i'r plant, y bobl ifanc a’u teuluoedd am roi eu hamser i siarad â'r arolygwyr ac i roi adborth iddynt.

 

“Mae gennym ambell faes i wella hefyd, ac rydym eisoes wedi cychwyn ar y broses o weithredu ar y rhain.”

 

Dywed yr adroddiad: “Mae'r gwasanaeth yn canolbwyntio ar blant ac yn ymrwymedig i helpu plant i ymatal rhag troseddu pellach. Mae dull gweithredu personoledig yn helpu i sicrhau bod anghenion amrywiaeth plant yn cael eu cydnabod, a bod cefnogaeth yn ei lle i'w helpu i ffynnu a gwneud penderfyniadau cadarnhaol. Mae staff a gwirfoddolwyr yn gryfder. Maent yn garedig, yn feddylgar, yn gweithio'n dda gyda'i gilydd fel un tîm, ac yn eiriolwyr cadarnhaol dros y plant y maent yn eu goruchwylio.”