Hyd at £10,000 ar gael i helpu busnesau leihau eu costau rhedeg

Dyddiad: 30/05/2024

Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i atgoffa busnesau mai dim ond wythnos sydd ar ôl iddynt ymgeisio am grant o hyd at £10,000 gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae’r grant ar gael i fusnesau micro, bach a chanolig yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden, er mwyn cael cyllid i baratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol.

 

Gellir defnyddio’r arian er mwyn buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy, gwella eu hadeiladau, ac uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni.

 

Mae’r grantiau o rhwng £5,000 a £10,000 ar gael i fusnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i ymgeisio: Cronfa paratoi at y dyfodol | Busnes Cymru (gov.wales)

 

Dywedodd y Sioned Williams, Pennaeth Adran Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Dyma’r cyfle olaf i fusnesau ymgeisio am y grant, ac mae’n gyfle da i fentrau Gwynedd gael cymorth ychwanegol er mwyn paratoi eu busnesau ar gyfer y dyfodol.”

 

Mae gan fusnesau hyd at 11:59pm ddydd Iau 6 Mehefin 2024 i gyflwyno eu cais, neu hyd nes y bydd cyfanswm gwerth y ceisiadau a gyflwynir yn fwy na’r dyraniad cyllidebol.