Rysáit gofalwr maeth o Wynedd yn cael cydnabyddiaeth mewn llyfr coginio

Dyddiad: 16/05/2024
Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni, mae Maethu Cymru Gwyneddyn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi pobl ifanc lleol mewn angen.

 

Yn eu llyfr newydd – Gall pawb gynnig rhywbeth – mae Maethu Cymru’n tynnu sylw at y pethau syml y gall ofalwyr eu cynnig – megis sicrwydd pryd o fwyd rheolaidd, amser gyda’r teulu o amgylch y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

 

Mae gan Gall pawb gynnig rhywbeth dros 20 rysáit, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog gan gynnwys y ddigrif-wraig o Ogledd Cymru, Kiri Pritchard Mclean, sy'n tynnu ar ei phrofiadau personol fel gofalwr maeth awdurdod lleol.

 

Mae gofalwr maeth o Wynedd, Kanu, wedi rhannu un o'i ryseitiau teuluol arbennig, 'Kadhai Cyw Iâr', sy'n cael sylw yn y llyfr coginio newydd.

 

Mae Kanu a'i gŵr Nadeem, sy'n wreiddiol o India, wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol yng Ngwynedd ers 2020 ac wedi croesawu llawer o blant gwahanol i'w cartref.

 

Dywedodd Kanu, Gofalwr Maeth o Wynedd:

"Y rysáit hon yw ein cyri achlysur arbennig ac mae'n bryd o fwyd y mae pawb yn y tŷ yn ei fwynhau,"

 

"Mae coginio yn rhan bwysig iawn o aelwydydd Indiaidd. Rydym yn caru ein cyrïau ac yn ceisio cymysgu bwyd y byd gyda sbeisys Indiaidd.

 

"Mae ffordd o fyw bwyta'n iach yn cael effaith enfawr ar ymddygiadau ac i blentyn maeth, mae'n bwysig iddynt gael diet iach ar gyfer eu lles corfforol ac emosiynol. Yn aml iawn, nid yw eu cof am brydau bwyd a'u perthynas â bwyd mor wych felly rwy'n hoffi coginio prydau maethlon i'm teulu bob dydd.

 

"Pryd bynnag mae plentyn maeth yn dod i fyw gyda ni, maen nhw'n cael cyfle i drio bwyd Indiaidd. Y person cyntaf i ni ei faethu oedd yn ei arddegau - roedd hi'n caru cyrïau Indiaidd ac yn mwynhau fy nghyri a chapattis gyda rhywfaint o reis, popadum ac iogwrt.”

 

 

Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Phobl Ifanc, y Cynghorydd Elin Walker Jones:

 

"Rydym yn falch iawn o weld rysáit Kanu yn y casgliad hwn o ryseitiau arbennig gan ein cymunedau maethu ledled Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at goginio rhai o'r prydau fy hun, yn enwedig cyri Kanu!

 

“Gobeithio y bydd y llyfr coginio hwn yn cynnig rhywfaint o ysbrydoliaeth ac awgrymiadau defnyddiol i gefnogi ein gofalwyr maeth i ddysgu eu plant maeth i sefydlu ymddygiadau bwyta'n iach yn gynnar mewn bywyd, a fydd yn cael effaith hirdymor ar eu lles.

 

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i'n cymuned faethu anhygoel yma yng Ngwynedd ac am eu hymrwymiad, eu hangerdd a'u hymroddiad i ddarparu dyfodol gwell i'n plant a'n pobl ifanc.

 

"Drwy faethu'n lleol, gyda Chyngor Gwynedd, mae ein gofalwyr maeth yn helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o'r teulu y maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw. Mae'n eu cadw'n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac yn eu helpu i gadw eu synnwyr hunaniaeth.

 

"I unrhyw un sy'n meddwl am faethu, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Gwynedd a gallwn ni eich siarad chi drwy eich opsiynau."

 

Bydd y llyfr coginio’n cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru, a gellir cael fersiwn digidol o: gall pawb gynnig rhywbeth - maethu cymru (llyw.cymru)

 

Er mwyn darganfod rhagor am ddod yn ofalwr maeth yng Ngwynedd, ewch i: maethucymru.gwynedd.llyw.cymru

 

Nodiadau i olygyddion

 

Mae cyfweliadau gyda chynrychiolwyr Maeth Cymru a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar gael drwy gydol Pythefnos Gofal Maeth.

 

Am ragor o wybodaeth neu geisiadau cyfryngau, cysylltwch ag elouise@wearecowshed.co.uk / georgia@wearecowshed.co.uk