Byw'n Iach yn penodi Rheolwr Gyfarwyddwr newydd
Dyddiad: 25/03/2025
Mae cwmni Byw’n Iach wedi penodi Rheolwr Gyfarwyddwr newydd fydd yn arwain y rhwydwaith o adnoddau hamdden, iechyd a ffitrwydd yng Ngwynedd ymlaen i’r bennod nesaf.
Yn dilyn proses recriwtio drylwyr iawn, dewiswyd Trystan Pritchard i fod yn Rheolwr Gyfarwyddwr newydd, i olynu Amanda Davies sy’n camu lawr wedi wyth mlynedd wrth y llyw gyda gwasanaethau hamdden y sir.
Byw’n Iach sy’n rhedeg 11 canolfan hamdden sir Gwynedd ac mae’n cyflogi mwy na 250 o staff yn lleol i ddarparu llu o weithgareddau, er mwyn gwella iechyd, lles, ffitrwydd a sgiliau pawb o bob oed a gallu. Mae Byw’n Iach yn gwmni o dan berchnogaeth Cyngor Gwynedd.
Yn wreiddiol o Fethesda, mae gan Trystan Pritchard brofiad ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru. Yn y gorffennol mae wedi bod mewn rolau rheolaethol uwch o fewn y sectorau Iechyd a Llywodraeth Leol. Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys ymgysylltu, rheoli strategol, arweinyddiaeth a hyfforddi.
Mae Trystan yn aelod o Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru a Phwyllgor Cenedlaethol y Loteri ac mae’n cadeirio Mantell Gwynedd, y cyngor gwirfoddoli sirol. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Cyngor ar Bopeth Cymru. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys mynydda, pêl droed, rygbi a threulio amser gyda’i deulu.
Dywedodd Trystan Pritchard: “Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i ymuno a thîm Byw'n Iach. Mae hon yn rôl bwysig iawn i helpu i wella iechyd a lles pobl Gwynedd. Mae potensial mawr i adeiladu ar y gwaith gwych sydd eisoes yn digwydd ac i barhau i ddatblygu ein cyfleusterau ar draws y sir. Mae heriau amlwg yn wynebu gwasanaethau cyhoeddus a gobeithiaf y gallaf gydweithio a'r tîm a'n holl bartneriaid i wneud gwahaniaeth positif i fywydau ein trigolion.”
Bydd Trystan yn ymuno a’r cwmni yn ystod mis Mawrth, ac yn cydweithio gyda Amanda Davies am yr wythnosau cyntaf er mwyn ymgyfarwyddo gyda gwaith y cwmni.
Amanda Davies oedd Rheolwr Gyfarwyddwr cyntaf y cwmni. Arweiniodd Byw’n Iach ar y daith o drosglwyddo o fod yn un o wasanaethau Cyngor Gwynedd i sefydlu cwmni cyfyngedig drwy warant yn 2019.
Dywedodd Amanda: “Mae wedi bod yn fraint fawr i fod yn rhan o’r tîm wnaeth sefydlu cwmni Byw’n Iach. Rwyf wedi cael y pleser o gydweithio gyda grŵp arbennig o gyfarwyddwyr a staff i roi sail gadarn i’r cwmni. Er ein bod wedi gorfod wynebau heriau mawr yn ystod blynyddoedd y pandemig, rydym wedi medru symud ymlaen o hynny i foderneiddio gwasanaethau a chyfleusterau. Mae gwasanaethau Byw’n Iach yn agos at galon lawer iawn o drigolion Gwynedd a dwi’n ffyddiog y bydd Trystan yn parhau i adeiladu ar y sail sydd yn ei le, er mwyn dod a’r buddion iechyd a llesiant i’n cymunedau ar draws y sir.”
Ychwanegodd Cadeirydd Cwmni Byw’n Iach, y Cynghorydd Beth Lawton: “Rwy’n falch iawn bod y Cwmni wedi denu unigolyn mor arbennig i’r swydd allweddol hon. Mae Trystan yn dod a chyfoeth o brofiadau gwahanol i’r rôl, ac rwy’n ei longyfarch yn gynnes ar ei benodiad ac yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr ag ef i gyflawni a rhagori ar nodau uchelgeisiol Byw’n Iach ar gyfer y dyfodol.
“Talaf deyrnged hefyd i Amanda wrth iddi gamu lawr. Diolch o waelod calon am ei gwaith ymroddedig a phob dymuniad da iddi i’r dyfodol.”