Cyfle olaf i ddweud eich dweud am wasanaethau Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 18/03/2025

Mae gan bobl Gwynedd wythnos ar ôl i fanteisio ar gyfle i rannu barn a sylwadau ar yr ystod o wasanaethau sy’n cael eu darparu gan y Cyngor.

Bydd Arolwg Gwynedd yn cau ar 24 Mawrth 2025, felly mae cyfle o hyd i bobl leol i ddweud eu dweud am faterion fel casgliadau gwastraff, cinio ysgol, cyflwr ffyrdd a phalmentydd, a llawer mwy. Mae’r holiadur ar gael ar-lein neu mae modd llenwi copi papur.

Drwy gynnal yr ymarferiad hwn, bwriad Cyngor Gwynedd yw cael gwell dealltwriaeth am:

  • Yr hyn sy’n bwysig i drigolion Gwynedd
  • Sut le ydi Gwynedd i fyw a phrofiad pobl o’r ardal leol
  • Sut mae trigolion yn teimlo am y Cyngor ac yn rhyngweithio â’r Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae nifer fawr o bobl eisoes wedi cymryd y cyfle i rannu eu barn a dwi’n ddiolchgar iddynt am gymryd yr amser. Dros yr wythnosau diwethaf mae ein swyddogion wedi bod i lawer o lefydd ar draws y sir fel llyfrgelloedd a gweithgareddau cymunedol ac wedi siarad efo dwsinau o bobl tra mae eraill wedi llenwi’r holiadur ar y wefan.

“Mae wythnos ar ôl cyn i’r arolwg gau felly dwi’n erfyn ar bawb sydd heb wneud hyd yma – o bob oed, o bob cefndir ac ym mhob rhan o’r sir – i fachu ar y cyfle.

“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio gwasanaethau’r Cyngor ar ryw amser yn ein bywydau – o wasanaethau gofal, i’r ystafell ddosbarth, neu gefnogaeth i fusnesau’r sir. Dyma gyfle gwych i ddweud wrthym am eich profiad o ddefnyddio’r gwasanaethau hyn yn ogystal â’ch barn am eich ardal leol.

“Bydd eich sylwadau yn ein helpu i ddeall beth sy’n gweithio, ble mae lle i wella a’n helpu i lunio gwasanaethau’r dyfodol. Mae’r arolwg yn hawdd a chyflym a bydd ond yn cymryd ychydig funudau i’w lenwi.”

I gymryd rhan yn yr arolwg:

  • Gellir ei gwblhau ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/ArolwgGwynedd
  • Mae copïau papur ar gael yn y dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Pwllheli a Dolgellau) ac ym mhob llyfrgell yn y sir
  • I ofyn am gopi papur drwy’r post, cysylltwch â 01286 679266 neu 01286 679233.

Bydd yr arolwg yn cau am hanner nos, nos Lun, 24 Mawrth, 2025.

Mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru sydd wedi datblygu’r arolwg cenedlaethol hwn.