Cyngor Gwynedd yn Gosod Cyllideb ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2025 26

Dyddiad: 06/03/2025
Mewn cyfarfod o Gyngor Gwynedd heddiw (6 Mawrth, 2025), mae aelodau etholedig wedi cytuno ar argymhelliad i osod cyllideb o oddeutu £356.82 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Bydd y gyllideb hon yn cael ei hariannu gan gyfuniad o grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r Dreth Cyngor, a bydd yn caniatáu i’r Cyngor ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl Gwynedd megis rhoi addysg i blant lleol, cynnal gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu, graeanu’r ffyrdd, rhoi gofal cartref i unigolion bregus, a llawer mwy.

Eto eleni, mae Cyngor Gwynedd yn gweld costau yn parhau i bentyrru – er enghraifft, mae’r cynnydd mewn cyfaniad Yswiriant Gwladol i gyflogwr wedi arwain gost ychwanegol o £4.5 miliwn i’r awdurdod ac mae biliau trydan ysgolion, llyfrgelloedd, cartrefi gofal ac adeiladau eraill y Cyngor yn cynyddu. I gymhlethu’r sefyllfa, mae’r galw am wasanaethau ar gynnydd hefyd, er enghraifft mae mwy o blant bregus angen pecynnau gofal, mae mwy o bobl hŷn angen cefnogaeth fel gofal cartref a digartrefedd yn parhau o fod yn broblem ddyrys yn y sir.

Gan nad ydi’r cynnydd yn yr arian sy’n dod i fewn gan y Llywodraeth yn cyfateb â’r cynnydd mewn costau, mae Cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio i bontio’r bwlch ariannol hwn drwy gyfuniad o doriadau i wasanaethau, arbedion a chynyddu’r Dreth Cyngor o 8.66%.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod Cabinet Cyllid ar Gyngor Gwynedd:

“Dros y ddegawd diwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod torri bron chwarter o’n cyllideb refeniw dydd i ddydd, sy'n cyfateb i tua £74 miliwn. Mae ein gwasanaethau hanfodol yn cael eu herydu gan nad yw’r arian rydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn cynyddu ar yr un raddfa a’n costau na’r cynnydd mewn galw.

“Roedd yr adroddiad oedd gerbron y Cyngor heddiw yn egluro fod y Cyngor angen cynyddu ein gwariant o £25.8 miliwn er mwyn rhoi’r un lefel o wasanaeth i bobl Gwynedd â llynedd, gan fod costau yn uwch a mwy o bobl angen ein cymorth. Ond  dim ond £8.6 miliwn yn ychwanegol yr ydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth,

“Oherwydd hyn, ac er mwyn gallu ateb y gofyn cyfreithiol sydd arnom i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2025/26, rhaid i ni barhau i chwilio am bob ffordd o dorri ein costau ac yn anffodus hefyd gynyddu’r dreth.

“Er mor ddyrys yw’r sefyllfa ariannol, rydw i’n falch ein bod fel Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu cyllidebau ysgolion a gwasanaethau gofal i oedolion a phlant bregus.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Arweinydd y Cyngor: “Does yr un ohonom eisiau gweld trethi yn cynyddu a dwi’n pryderu fod aelwydydd yng Ngwynedd yn ei chael yn anodd cael dau pen llinyn ynghyd.

“Mae’n bwysig fod pawb yn gwybod fod cymorth ar gael i bobl sy’n dioddef yn sgil yr argyfwng costau byw. Os ydych yn ei chael yn anodd i dalu eich bil treth Cyngor, plîs cysylltwch â’r Gwasanaeth Trethi’r Cyngor i weld os oes rhywbeth gellir ei wneud i helpu. Efallai fod modd gwneud trefniant talu arbennig neu efallai eich bod yn gymwys am ostyngiad neu eithriad. Gallwch gysylltu â’r tîm drwy wefan y Cyngor neu ffonio 01286 682700.

“Yn ychwanegol, mae help ar gael gyda costau byw eraill, fel sut i hawlio bydd-daliadau, help i gadw’ch cartref yn gynnes a chymorth i fynd ar-lein i ffeindio’r cynigion gorau. Mae llawer o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/CymorthCostauByw neu gallwch fynd i un o’r Hybiau Cymunedol sydd ar draws y sir.”

Nodiadau

Mae cynnydd o 8.66% yn y Dreth Cyngor yn cyfateb i gynnydd wythnosol o £2.92, neu £152.02 yn flynyddol; gyda eiddo Band D yn talu £1,907.47 mewn Treth Cyngor ar gyfer 2025/26.

Mae’r Cynnydd o 8.66% yn y Dreth Cyngor yn cynnwys cynnydd o 0.43% yn y cyfraniad i Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.