Cyngor Gwynedd yn cefnogi menter gymunedol yn Abersoch

Dyddiad: 11/03/2025

Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo argymhelliad i roi prydles hir dymor i fenter gymunedol Menter Rabar, fydd yn caniatáu iddynt wireddu cynlluniau cyffrous i ddatblygu hen safle Ysgol Abersoch i fod yn adnodd cymunedol.

Mae’r grŵp cymunedol nid-er-elw Menter Rabar wedi sicrhau £400,000 i’w fuddsoddi yng ngwedd gyntaf  o waith adnewyddu safle’r hen ysgol. Mae’r Cyngor felly wedi ei fodloni bod yr adnoddau angenrheidiol mewn lle gan y Fenter i ddatblygu’r safle er budd y gymuned. 

Mae’r cynlluniau ar gyfer y safle yn cynnwys:

• Caffi cymunedol

• Arddangosfa dreftadaeth

• Ystafell aml-ddefnydd i gynnal gweithgareddau a chyrsiau

• Unedau busnes i'w gosod

• Gardd gymunedol.

 

Bydd gwaith hefyd yn cael ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni'r adeilad drwy osod paneli solar a phwmp gwres o’r aer, ynghyd â darparu pwyntiau gwefru i geir trydan.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet dros Dai ac Eiddo Cyngor Gwynedd:

“Mae buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol amlwg i gynlluniau Menter Rabar a rydw i’n hynod falch bod y Cyngor yn gallu eu cefnogi drwy gynnig prydles hir dymor i’r fenter am swm enwol.

“Mae Menter Rabar wedi llwyddo i godi llawer o arian i’w fuddsoddi yn yr eiddo i’w wneud yn hwb hygyrch yng nghanol y pentref ar gyfer gweithgareddau a gwasanaethau amrywiol.

“Bydd y fenter gyffrous hon yn cynnig cyfleon i’r gymuned gyfan yma; bydd yn cynnig gofod i fusnesau, lle i’r gymuned ddod ynghyd a chyfleon i ddysgu am ddiwylliant a threftadaeth yr ardal. Bydd y gweithgareddau hyn hefyd yn cyfrannu at gryfhau’r iaith Gymraeg yn yr ardal.”

Meddai Einir Wyn, Ysgrifenydd ar ran Menter Rabar:

"Mae Menter Rabar yn hynod falch ein bod, o’r diwedd, wedi dod â’r gyn-ysgol yn ôl i berchnogaeth y gymuned, lle dylai fod, ychydig dros ganrif ar ôl ei hagor i wasanaethu’r pentref.

"Bydd y prosiect yn dathlu a diogelu treftadaeth unigryw y pentref a’r gymuned trwy arddangosfa ac archif gyffrous, ryngweithiol.  Bydd yn ganolfan fenter ffyniannus, yn cynnig man gweithio hyblyg a fforddiadwy i weithwyr cartref ac entrepreneuriaid i’w rentu.  Cynigia’r caffi a’r ardd amrywiaeth gyfleoedd gwirfoddoli tra’n darparu gofod a ddyluniwyd yn hyfryd, sydd wir ei angen, yn y pentref.

"Bydd Menter Rabar yn rhannu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg â phawb sydd yn ymweld, gweithio a byw yn Abersoch trwy gydol y flwyddyn.

"Bu’n daith hir a heriol ar brydiau.  Ond, gyda’n gilydd, profom fod cymuned Abersoch yn tebol o wneud pethau gwych.  Dyma ddechrau newydd i Abersoch ac yn ôl arwyddair yr ysgol bydd yn ‘hwylio i’r dyfodol’."

Ychwanegodd y Cynghorydd John Brynmor Hughes, Aelod lleol dros Abersoch gyda Llanengan:

“Hoffwn ddiolch i bob aelod o’r pwyllgor am ei ymdrech ac am ei amser i wneud hyn yn fenter lwyddiannus. Hefyd diolch i bawb sydd wedi cefnogi'r fenter yn ariannol. Pob lwc am y dyfodol. Ymlaen ac i fyny.”

Mae gan Gyngor Gwynedd bolisi o roi cyfle teg i gymunedau sy’n cael eu heffeithio pan fo ysgol yn cau i ystyried llunio cynllun busnes i gefnogi cymryd trosglwyddiad o’r eiddo.