Dathlu effaith cronfa ar lawr gwlad Gwynedd
Dyddiad: 17/03/2025
Mae cronfa sy’n cael ei gweinyddu gan Gyngor Gwynedd wedi buddsoddi mwy na £24 miliwn mewn busnesau a mentrau lleol gan greu a diogelu dwsinau o swyddi a rhoi hwb i gymunedau’r sir.
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ym Mhorthmadog yr wythnos hon i nodi llwyddiannau Cronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Gwynedd a’r prosiectau ym mhob rhan o’r sir sydd wedi elwa. Roedd y digwyddiad yn gyfle i fusnesau, sefydliadau a gwleidyddion ddod at ei gilydd yng Nghlwb Pêl-droed Porthmadog i rannu profiadau ac i ddathlu effaith gadarnhaol y gronfa.
Croesawyd ymdrechion partneriaid a chymunedau i sicrhau llwyddiant y gronfa gan y Cynghorydd Medwyn Hughes, Aelod Cabinet Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd. Dywedodd: “Gan weithio gyda’n cymunedau a diolch i’r gronfa, mae Cyngor Gwynedd wedi gallu creu newid cadarnhaol, gan wella ardaloedd i fyw a gweithio ynddynt a chynnig cyfleoedd newydd i bobl.
“Rydym wedi gweithio gyda busnesau, y sector wirfoddol, partneriaid a grwpiau cymunedol i sicrhau bod y cyllid yn cyrraedd y llefydd iawn. Rwy’n hyderus y bydd hyn yn cyfrannu tuag at ein nod o feithrin balchder yn ein hardaloedd ac yn rhoi hwb i gyfleoedd bywyd yma yng Ngwynedd.
“Diolch i holl bartneriaid y Cyngor am gydweithio ar brosiectau’r gronfa ac am sicrhau budd go iawn i drigolion a chymunedau’r sir.”
Trwy weithgareddau wedi eu cefnogi gan y gronfa, cafodd 67 o swyddi newydd eu creu a 103 eu diogelu. Crëwyd 1,795 o gyfleoedd gwirfoddoli a chafodd 964 o ddigwyddiadau cymunedol eu cynnal. Mae’r amgylchedd wedi elwa hefyd - gyda 12 tunnell o ostyngiad cyfatebol mewn carbon wedi ei sicrhau a bron i 300 o gartrefi wedi gwella effeithlonrwydd ynni.
Un o’r busnesau oedd yn bresennol yn y digwyddiad ac sydd wedi derbyn cefnogaeth yw Always Aim High Events. Trwy’r gronfa mae’r busnes wedi gallu datblygu canolfan ddigwyddiadau newydd yn Llanberis gan greu cyfleuster cymunedol a phencadlys newydd i’r busnes.
Dywedodd Nigel Kendrick un o berchnogion y cwmni: “Mae cefnogaeth Cyngor Gwynedd a’r gronfa wedi caniatáu i ni symud yn ôl i’n gwreiddiau yn Eryri. Trwy ddatblygu ein canolfan newydd rydym yn gallu parhau i chwarae rôl allweddol yn natblygiad twristiaeth a chwaraeon awyr agored yr ardal yn ogystal â diogelu swyddi a chefnogi busnesau a chyflenwyr lleol. Mae hefyd yn cefnogi ein nod fel busnes o gael effaith gadarnhaol ar iechyd a llesiant pobl.“