Digwyddiadau 'Tai ar Daith' Cyngor Gwynedd yn dychwelyd ar gyfer 2025

Dyddiad: 20/03/2025

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ‘Tai ar Daith’ trwy’r sir er mwyn rhannu gwybodaeth a chyngor am faterion tai gyda thrigolion y sir.

Yn dilyn poblogrwydd y digwyddiadau y llynedd, bydd Tai ar Daith yn ymweld â Bethesda, Porthmadog, Tywyn a Nefyn eleni, gan ddechrau gyda’r digwyddiad cyntaf yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar 10 Ebrill 2025 o 4:00pm tan 6:30pm.

Pwrpas y digwyddiadau hyn yw codi ymwybyddiaeth o'r cynlluniau tai sydd ar gael er mwyn sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartrefi fforddiadwy, o safon, yn eu cymunedau eu hunain.

Yn ystod y digwyddiadau, bydd cynrychiolwyr o'r Cyngor a phartneriaid allweddol wrth law i ddarparu gwybodaeth a chyngor arbenigol. Bydd hyn yn cynnwys manylion am grantiau a benthyciadau sydd ar gael i helpu trigolion Gwynedd i brynu cartref, prosiectau i gynyddu’r cyflenwad tai ledled Gwynedd a phrosiectau i fynd i’r afael â digartrefedd yn y sir, ymysg llawer mwy.

Bydd swyddogion ar gael i helpu gydag unrhyw fater sy'n ymwneud â thai, o lenwi ffurflenni i drafod ceisiadau gan sicrhau bod pob mynychwr yn derbyn cefnogaeth sy’n addas i’w hanghenion personol.

Bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’r Cyngor yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad, gan gynnwys: 

  • Cymorth costau byw
  • Cynllunio
  • Cynlluniau tai
  • Digartrefedd
  • Gwybodaeth i deuluoedd
  • Opsiynau tai
  • Tai gwag
  • Ynni

Bydd cymdeithasau tai hefyd yn bresennol, ochr yn ochr â phartneriaid sy'n ymwneud â phrosiectau tai mewn ardaloedd penodol.  

Daw’r digwyddiadau hyn o dan faner Cynllun Gweithredu Tai gwerth £140 miliwn y Cyngor i fynd i’r afael â phrinder tai’r sir a sicrhau bod gan bobl Gwynedd fynediad at gartref addas o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella eu hansawdd bywyd.

Mae’r Cynghorydd Paul Rowlinson, Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, yn annog pobl i fynychu:

“Mae llawer iawn o waith wedi bod yn digwydd dros y blynyddoedd diwethaf i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yng Ngwynedd, ac mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yma’n gyfle i bobl ddysgu mwy am gynlluniau tai’r Cyngor a’i bartneriaid a thrafod eu hanghenion wyneb-yn-wyneb efo arbenigwyr yn y maes.

“Gall hyn gynnwys cefnogaeth gyda digartrefedd, tai cymdeithasol, benthyciadau i brynu cartref, dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, adeiladu cartrefi newydd, a llawer iawn mwy. Os oes gennych chi unrhyw bryder neu gwestiwn sy’n ymwneud â thai, mae’r digwyddiad yma i chi.

"Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fynd i'r afael â'r argyfwng tai a darparu cymorth i’n cymunedau. Tra bod ein drysau bob amser ar agor i'r rhai sydd angen cefnogaeth, mae’r digwyddiadau Tai ar Daith yn cynnig ffordd uniongyrchol i ddysgu mwy am sut y gallwn eich helpu chi, gyda’r holl wasanaethau tai ar gael o dan yr un to."

Digwyddiadau i ddod:

Bethesda

  • Dyddiad: 10 Ebrill 2025
  • Amser: 16:00 – 18.30
  • Lleoliad: Ysgol Dyffryn Ogwen, Ffordd Coetmor, Bethesda, LL57 3NN

Porthmadog

  • Dyddiad: 7 Mai 2025
  • Amser: 15:00 – 18.30
  • Lleoliad: Y Ganolfan, Stryd Fawr, Porthmadog LL49 9LU

Tywyn

  • Dyddiad: 15 Mai 2025
  • Amser: 15:00 - 18:30
  • Lleoliad: Neuadd Pendre, Tywyn, LL36 9DP

Nefyn

  • Dyddiad: 3 Mehefin 2025
  • Amser: 15:00 - 18:30
  • Lleoliad: Y Ganolfan, Ffordd Dewi Sant, Nefyn, LL53 6EA

Mwy o wybodaeth: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Tai-ar-Daith-Sesiynau-galw-i-mewn.aspx