Gwesty Corbett Arms Tywyn
Dyddiad: 25/03/2025
Mae cyflwr adeilad Gwesty'r Corbett Arms wedi bod yn achos pryder i Gyngor Gwynedd a'r gymuned leol yn Nhywyn ers peth amser.
Blaenoriaeth y Cyngor yw sicrhau cadwraeth, adnewyddu a sicrhau defnydd hirdymor o'r adeilad rhestredig Gradd II hwn.
Mae Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi sawl rhybudd dros y blynyddoedd, o dan Ddeddf Adeiladu 1984, ac wedi gorfod ymgymryd â gwaith i ddiogelu diogelwch y cyhoedd.
Mae cyflwr yr adeilad wedi parhau i ddirywio a bu cwymp sylweddol yng nghefn yr adeilad ddiwedd mis Ionawr eleni, gyda chwymp pellach ar do'r ystafell ddawns ddiwedd mis Chwefror.
Mae'r Cyngor wedi gorfod cymryd camau ar unwaith i amddiffyn y cyhoedd ar adeg y cwymp cychwynnol sydd wedi cynnwys cau ffordd yn rhannol, codi ffensys diogelwch a monitro parhaus o'r adeilad.
Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymgynnull grŵp prosiect gydag ystod o arbenigedd i reoli a gweithredu ei ymateb i'r mater hwn ac mae'r Cyngor hefyd yn ymgynghori'n rheolaidd â Cadw yn ogystal â'r Comisiwn Brenhinol.
Ar ôl ystyriaeth ofalus o gyngor arbenigol ynghylch cyflwr strwythurol yr adeilad, o ystyried diogelwch y cyhoedd yn ogystal â'r ffaith bod yr adeilad wedi'i restru, nid oes gan y Cyngor unrhyw ddewis ond cyflwyno cais am ganiatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel.
Ymhellach, mae'r Cyngor hefyd yn rhoi trefniadau ar waith i wneud gwaith dymchwel brys i'r adeilad, yn ogystal â mesurau eraill sydd eu hangen i ddiogelu diogelwch y cyhoedd.
Meddai Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: "Ein hamcan fel Cyngor fu cadw’r adeilad hwn sy’n rhan bwysig o hanes y dref, a dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd.
"Yn y bôn, cyfrifoldeb y perchennog yw sicrhau bod adeilad yn cael ei gynnal i'r safon ofynnol.
"Mae'r Cyngor wedi gorfod ystyried yn ofalus y risg i ddiogelwch y cyhoedd a statws yr adeilad fel adeilad rhestredig Gradd II.
"Nid yw'r penderfyniad hwn i gyflwyno caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer gwaith dymchwel a rhoi cynlluniau ar waith i ymgymryd â'r gwaith dymchwel brys wedi'i gymryd yn ysgafn. Rydym yn deall arwyddocâd yr adeilad hanesyddol hwn a phryderon y gymuned leol.
"Fodd bynnag, mae cyflwr yr adeilad wedi dirywio i'r pwynt lle mae bellach angen gweithredu ar unwaith i amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd, ac yn anffodus nid oes unrhyw opsiwn arall."
Bydd y Cyngor rwan yn cyflwyno cais am ganiatâd adeilad rhestredig i Cadw ar gyfer gwaith dymchwel.
Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn cysylltu â thrigolion cyfagos a'u diweddaru am gynlluniau sy'n ymwneud â gwaith dymchwel brys, gan gynnwys unrhyw fesurau fel cau ffyrdd dros dro a fydd yn ofynnol, er mwyn diogelu diogelwch y cyhoedd ymhellach.
Nodiadau:
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi'r rhybuddion canlynol ynglŷn ag adeilad Gwesty'r Corbett Arms:
- Wyth hysbysiad o dan Adran 78 (adeiladau peryglus) o Ddeddf Adeiladu 1984
- Tri hysbysiad o dan Adran 79 (adeiladau dinistriol ac adfeiliedig) o Ddeddf Adeiladu 1984