Ieuenctid Tywyn yn dathlu diwrnod ein nawddsant

Dyddiad: 18/03/2025
Roedd strydoedd Tywyn yn fwrlwm o liw a llun yn ddiweddar, wrth i fwy na 100 o blant lleol gymryd rhan yn yr orymdaith Dydd Gŵyl Dewi gyntaf i’w chynnal yn y dref, gan gyhwfan eu baneri ar hyd y Prom.

 

Trefnwyd y digwyddiad gan Adran Addysg Cyngor Gwynedd a Menter Iaith Gwynedd ar gyfer disgyblion Canolfan Iaith newydd a disgyblion Blwyddyn 7 Ysgol Uwchradd Tywyn a phedair ysgol gynradd yr ardal, sef Ysgol Pen y Bryn, Ysgol Craig y Deryn, Ysgol Dyffryn Dulas ac Ysgol Pennal.

 

Dros yr wythnosau diweddar, bu disgyblion yn gweithio gyda Cwmni’r Fran Wen i baratoi ar gyfer yr orymdaith drwy wneud gwisgoedd a mygydau wedi eu hysbrydoli gan y Mabinogion. Bu’r plant hefyd yn dysgu dawnsio ar gyfer y diwrnod arbennig.

 

Ar ddiwrnod yr orymdaith, cafodd y plant hefyd fwynhau disgo Cymraeg gyda’r DJ Emyr Gibson.

 

Ymunodd y Cynghorydd Dewi Jones, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd yn rhialtwch y diwrnod.

 

Meddai: “Er gwaetha’r gwynt a’r glaw, rydan ni wedi cael diwrnod wrth ein bodd yma yn Nhywyn heddiw. Roedd yn arbennig cael gweld y plant yn mwynhau a chael gweld nhw’n dathlu eu Cymreictod wrth orymdeithio.

 

“Hoffwn ddiolch i Gwmni’r Fran Wen sydd wedi gwneud gwaith arbennig gyda’r plant ers wythnosau.

 

“Rydw i’n edrych ymlaen at gael mwy o orymdeithiau fel hyn ym mhob rhan o Wynedd at y dyfodol.”

 

Dyma oedd barn rhai o’r plant am y diwrnod:

 

Dywedodd Maisie o Ysgol Pen y Bryn: “Mae heddiw yn bwysig i gael pobl i ddod at ei gilydd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.”

 

Dywedodd Anni o Ysgol Craig y Deryn: “Mae heddiw yn bwysig achos bydd yn helpu mwy o bobl i ddathlu eu bod yn Gymraeg a chael mwynhau eu hamser. Dwi’n gobeithio bydd y parêd yn digwydd eto.”

 

Meddai Bayley o Ysgol Craig y Deryn: “Yr uchafbwynt i mi oedd cael mynd ar traeth Tywyn a chael gwneud ein dawns.”

 

Ychwanegodd Grace o Ysgol Dyffryn Dulas: “Dwi wedi mwynhau gwneud celf a chael gwneud ffrindiau newydd.”